2007 Rhif 1069 (Cy.109)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer ei bwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi1, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 23 Ebrill 2007.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau yng Nghymru.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “unedau” yw unedau cyfeirio disgyblion.

Dirymu2.

Dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) 19942 a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Diwygio) 19963.

Cymhwyso ac addasu deddfiadau3.

Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unedau gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.

Datgymhwyso deddfiadau4.

Nid yw'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1DEDDFIADAU SY'N GYMWYS I UNEDAU (GYDAG ADDASIADAU NEU HEBDDYNT)

Rheoliad 3

RHAN 1Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Addysg 1996

1.

Mae adran 404 o Ddeddf Addysg 19965 yn gymwys o ran yr athro neu'r athrawes â gofal uned fel y mae'n gymwys o ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir, ond dim ond o ran disgyblion y darperir addysg uwchradd iddynt yn yr uned.

2.

Mae adran 405 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir gyda'r addasiad fod y geiriau “, except so far as such education is comprised in the National Curriculum,” yn cael eu hepgor.

3.

Mae adran 559 o'r Ddeddf honno6 yn gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

4.

(1)

Mae adran 19 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19987 yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru gyda'r addasiadau canlynol.

(2)

Mae is-adran (1) yn gymwys os bydd yr amgylchiadau a osodir yn adran 15(6) o'r Ddeddf honno ar unrhyw adeg yn gymwys o ran uned.

(3)

Yn is-adran (2) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu ym mharagraff (a), a hepgorer paragraffau (b) a (c).

(4)

Yn is-adran (3) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu.

5.

Mae adran 61 o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad y rhodder yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu gyfeiriadau at bwyllgor rheoli'r uned neu, yn achos uned sydd heb bwyllgor rheoli, yr awdurdod addysg lleol.

6.

Mae is-adrannau (1), (2) a (4) o adran 62 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran uned fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiadau—

(a)

bod y cyfeiriad yn is-adran (2)(b) at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at yr athro neu'r athrawes â gofal yr uned, a

(b)

bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at gorff llywodraethu yn cael ei hepgor.

Deddf Addysg 2002

7.

Mae adran 29(3) o Deddf Addysg 20028 yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno).

8.

Mae adran 30(4) o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad fod y geiriau “the governing body or (as the case may be)” a “the governing body or” yn cael eu hepgor.

9.

Mae adran 32 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a grybwyllir yn adran 32(1) gyda'r addasiad yn adran 32(1)(b), yn achos uned sydd â phwyllgor rheoli, mai'r awdurdod addysg lleol ynghyd â'r pwyllgor rheoli fydd yn penderfynu amserau'r sesiynau ysgol.

10.

Mae adran 101(1)(d) o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion arbennig.

Deddf Addysg 2005

11.

(1)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 20059 yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi gyda'r addasiadau canlynol.

(2)

Hepgorer Pennod 1 a 2, adrannau 36(3)(c), 39(9), 40, 48, 49 a 50 a pharagraff 3(5)(c) yn Atodlen 4.

(3)

Yn lle adran 38(3)(c), rhodder “the local education authority”.

(4)

Yn lle adran 39(3)(b), rhodder “teacher in charge of the unit”.

(5)

Yn adran 43 ac yn Atodlen 4, o ran uned, ystyr “appropriate authority” yw'r awdurdod addysg lleol.

RHAN 2Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999

12.

Mae rheoliad 2 o Reoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 199910 yn gymwys o ran disgybl sy'n mynychu uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

13.

(1)

Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 200611 yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o Ddeddf Addysg 2005 yn gymwys iddynt, gyda'r addasiadau canlynol.

(2)

Yn lle'r diffiniad o “awdurdod priodol” yn rheoliad 4(1), rhodder “yr awdurdod addysg lleol”.

(3)

Yn rheoliad 7(1), hepgorer is-baragraffau (a) i (ch).

(4)

Mae rheoliad 7(1)(dd) yn gymwys i unedau fel y mae'n gymwys i ysgolion uwchradd.

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

14.

(1)

Mae Rhan 1 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200612 yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 gyda'r addasiadau canlynol.

(2)

Mae'r ddyletswydd o dan reoliad 4(1) yn ddyletswydd yr awdurdod addysg lleol.

(3)

Yn rheoliad 5—

(a)

ym mharagraff (1), hepgorer “15, 26 a 27”;

(b)

ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraffau (b) ac (c); ac

(c)

hepgorer paragraff (3).

(4)

Hepgorer rheoliad 6.

(5)

Yn rheoliad 7, hepgorer paragraffau (4)(a) a 5.

15.

(1)

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9 gyda'r addasiadau canlynol.

(2)

Yn lle rheoliad 10, rhodder—

“(a)

Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau pryd bynnag y bydd swydd athro neu athrawes â gofal uned yn wag bod person yn cael ei benodi yn athro gweithredol neu'n athrawes weithredol â gofal er mwyn cyflawni swyddogaethau athro neu athrawes â gofal o dan unrhyw ddeddfiad.

(b)

Wrth benderfynu os yw person yn addas ar gyfer ei benodi'n athro neu'n athrawes â gofal, neu'n athro gweithredol neu'n athrawes weithredol â gofal uned, rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.”.

(3)

Hepgorer rheoliad 11.

(4)

Yn lle rheoliad 12, rhodder—

“(a)

Wrth benodi person i swydd, neu wrth gymryd person ymlaen i weithio mewn dull arall, mewn uned, rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(b)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran swyddi staff cymorth a gwaith staff cymorth fel y mae'n gymwys o ran swyddi addysgu a gwaith athrawon”.

(5)

Hepgorer rheoliad 13.

(6)

Yn lle rheoliad 14, rhodder—
  • “I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, rhaid i'r awdurdod addysg lleol geisio cyngor yr athro neu'r athrawes â gofal uned, a rhaid iddo ystyried unrhyw gyngor a roddir, cyn gwneud unrhyw benodiad neu ymrwymo i gymryd unrhyw un ymlaen o dan reoliad 12.”.

(7)

Hepgorer rheoliadau 15 a 17 i 19.

(8)

Yn lle rheoliad 16, rhodder—

“(1)

Mae gan yr awdurdod addysg lleol a chan yr athro neu'r athrawes â gofal uned y pwer i atal unrhyw berson a gyflogir, neu a gymerwyd ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol ac, ym marn yr awdurdod neu (yn ôl y digwydd) ym marn yr athro neu'r athrawes â gofal, y mae angen ei atal.

(2)

Rhaid i'r person sy'n arfer y pwer i atal hysbysu'r person arall sydd â'r pwer i atal o dan baragraff (1) ar unwaith.

(3)

Dim ond yr awdurdod addysg lleol a all roi diwedd ar ataliad o dan y rheoliad hwn a phan roddir diwedd ar ataliad, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r pennaeth ar unwaith.

(4)

Yn y rheoliad hwn ystyr “atal” yw atal heb golli tâl.”.

ATODLEN 2DEDDFIADAU A DDATGYMHWYSIR O RAN UNEDAU

Rheoliad 4

Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

1.

Nid yw adrannau 86 13 a 9414 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gymwys o ran unedau.

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

2.

Nid yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 200315 yn gymwys o ran unedau.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg addas yn yr ysgol neu heblaw mewn ysgol ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol nad ydynt, oherwydd salwch, gwaharddiad o'r ysgol neu fel arall, yn derbyn am unrhyw gyfnod, addysg addas oni wneir trefniadau o'r fath ar eu cyfer. Adnabyddir unrhyw ysgol a sefydlwyd ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd wedi'i threfnu'n arbennig i ddarparu addysg ar gyfer plant o'r fath, yn uned cyfeirio disgyblion.

Mae Atodlen 1 i'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau sy'n cymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso gwahanol ddeddfiadau addysg i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Maent yn cymryd i ystyriaeth ddeddfwriaeth addysg a basiwyd, ers i rheoliadau gael ei gwneud ddiwethaf i gymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cynt hynny'n cael eu dirymu gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.