xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000 o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth amgen ar gyfer penodi Comisiynydd a'i ryddhau o'i swydd gan ddibynnu ar pryd y mae'r penodi neu'r rhyddhau o'r swydd yn digwydd. Mae'r Rheoliadau'n cymryd i ystyriaeth newidiadau sydd i gael eu gwneud yn effeithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a'u bwriad yw sicrhau na fydd y newidiadau hyn yn peri bod oedi neu aflonyddwch wrth benodi'r Comisiynydd.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau er mwyn darparu y gall y Comisiynydd gael ei benodi gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, fel y'i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, os caiff y penodiad ei wneud cyn bod Prif Weinidog newydd yn cael ei benodi o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dim ond wrth ddilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn cynghori ynghylch y penodiad, ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld gan banel dewis, ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi, y gall penodiad gael ei wneud yn ystod y cyfnod yma. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn plant yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig.

Yn dilyn penodi Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 penodir y Comisiynydd gan y Prif Weinidog, heb gyngor gan y pwyllgor perthnasol, ond ar ôl i'r Prif Weinidog gymryd i ystyriaeth farn plant yng Nghymru, a chyngor unrhyw banel dewis.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, a'r amgylchiadau pan ellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd. Hyd nes y penodir Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Ysgrifennydd. Ar ôl penodi Prif Weinidog newydd gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Weinidog.

O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd y bydd unrhyw beth a wneir gan y Prif Ysgrifennydd yn union cyn penodi Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei drin ar ôl penodi'r Prif Weinidog fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.