2007 Rhif 1028 (Cy.95)
Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 6(4), (5), (6), (8) a (14) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20061.
Yn unol ag adran 6(15) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ciper” (“gamekeeper”) yw person a gymerir ymlaen gan berson sydd â hawliau saethu i gadw, i ddiogelu neu i feithrin anifeiliaid ac i reoli neu i gynorthwyo gyda rheoli cyrch saethu;
ystyr “cyrch saethu” (“shoot”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu saethu at ddibenion helwriaeth;
ystyr “dynodiad achub mewn argyfwng” (“emergency rescue identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o gorff sy'n darparu gwasanaeth achub mewn argyfwng;
ystyr “dynodiad CATHEM” (“HMRC identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn un o gyflogeion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
ystyr “dynodiad y gwasanaeth carcharau” (“prison service identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod awdurdodedig naill ai o Wasanaeth Carcharau Ei Mawrhydi neu o sefydliad sydd wedi'i gyflogi i ddarparu gwasanaethau carcharu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “dynodiad yr heddlu” (“police identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o'r heddlu, neu ei fod wedi'i gyflogi ganddynt mewn modd arall neu wedi'i gontractio i weithio i awdurdod heddlu;
ystyr “dynodiad y lluoedd arfog” (“armed forces identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o un o luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu ei fod wedi'i gyflogi ganddynt mewn modd arall neu wedi'i gontractio i weithio i un o luoedd arfog Ei Mawrhydi;
ystyr “math penodedig o waith” (“specified type of work”) yw gwaith mewn cysylltiad â gorfodi'r gyfraith, gweithgareddau lluoedd arfog Ei Mawrhydi, achub mewn argyfwng, rheoli cyfreithlon ar blâu, neu saethu anifeiliaid yn gyfreithlon.
ystyr “meddiannydd tir” (“land-occupier”) yw person sy'n meddiannu tir y mae cyrch saethu yn digwydd arno;
ystyr “person sydd â hawliau saethu” (“person with shooting rights”) yw perchennog neu lesddeiliad hawliau saethu;
ystyr “swyddog clwb” (“club official”) yw person sy'n gwasanaethu fel swyddog o glwb saethu;
ystyr “trefnydd cyrch saethu” (“shoot organiser”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am drefniadaeth gyfansawdd cyrch saethu;
Gofynion Ardystio3
1
Caiff milfeddyg ardystio ei fod wedi gweld tystiolaeth fod ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at fath penodedig o waith a'i fod yn gi o fath penodedig—
a
pan fo wedi'i fodloni fod mam y ci o un neu fwy nag un o'r mathau a bennir yn Atodlen 1;
b
pan fo'n credu'n rhesymol nad yw'r ci yn fwy na 5 niwrnod oed; ac
c
pan fo perchennog y ci, neu berson arall y mae'r milfeddyg yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog, wedi dangos y dystiolaeth a bennir ym mharagraff 2 i'r milfeddyg.
2
Y dystiolaeth yw—
a
mam y ci;
b
datganiad wedi'i gwblhau, wedi'i wneud yn Rhan 1 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, ac wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan berchennog y ci neu berson arall y mae'r milfeddyg y cyflwynir y datganiad iddo yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog; ac
c
un o'r canlynol—
i
pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran un o luoedd arfog Ei Mawrhydi, dynodiad y lluoedd arfog;
ii
pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran corff sy'n darparu gwasanaeth achub mewn argyfwng, dynodiad achub mewn argyfwng;
iii
pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran awdurdod heddlu, dynodiad yr heddlu;
iv
pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran Gwasanaeth Carcharau Ei Mawrhydi neu ar ran sefydliad sydd wedi'i gyflogi i ddarparu gwasanaethau carcharu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, dynodiad y gwasanaeth carcharau;
v
pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, dynodiad CATHEM;
vi
tystiolaeth y bydd perchennog y ci, neu'r asiant neu'r cyflogai i'r perchennog sy'n fwyaf tebygol o fod yn defnyddio'r ci, yn defnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â rheoli cyfreithlon ar blâu;
vii
tystysgrif gyfredol ar gyfer dryll neu arf tanio a ddyroddwyd i berchennog y ci, neu i'r asiant neu'r cyflogai i'r perchennog sy'n fwyaf tebygol o fod yn defnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon;
viii
llythyr gan giper, meddiannydd tir, (neu eu hasiant), person sydd â hawliau saethu, trefnydd cyrch saethu, swyddog clwb, person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith, neu gan berson sy'n ymwneud â rheoli cyfreithlon ar blâu, yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio ar ei dir, neu yn ei gyrch saethu, neu at ddifa plâu (yn ôl y digwydd).
3
Mae'n rhaid rhoi unrhyw ardystiad o dan baragraff (1) ar Ran 2 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2.
Cadarnhau tocio cynffon4
Rhaid i filfeddyg sy'n torri ymaith y cyfan o gynffon ci neu unrhyw ran ohoni, ac eithrio at ddibenion rhoi triniaeth feddygol iddo, ardystio'r ffaith honno ar Ran 3 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2.
Dynodi cwn wedi'u tocio5
1
Er mwyn cael ei ddynodi fel ci is-adran (3) fel sy'n ofynnol gan adran 6(8) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rhaid i gi fod wedi'i ficrosglodynnu—
a
gan filfeddyg neu gan nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan oruchwyliaeth milfeddyg; a
b
gan ddefnyddio microsglodyn sy'n cydymffurfio naill ai â safon ISO 11784 neu ag Atodiad A i safon ISO 11785 y Gyfundrefn Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion2.
2
Dim ond ar ôl i'r perchennog, neu berson arall y mae'r milfeddyg sydd i wneud neu i oruchwylio'r microsglodynnu yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog, wneud datganiad wedi'i lofnodi a'i ddyddio ar Ran 4 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 y ceir microsglodynnu ci at ddibenion y Rheoliadau hyn.
3
Rhaid i'r milfeddyg sy'n gwneud neu'n goruchwylio'r microsglodynnu ardystio'r ffaith honno ar Ran 5 o dystysgrif yn y ffurflen a ragnodir yn Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
ATODLEN LMathau Penodol o Gwn
Ysbaengwn
O'r bridiau a ganlyn:
Ysaengi Lloegr
Ysbaengi Cymru
Ysbaengi Adara,
ond nid cyfuniadau o fridiau
Daeargwn:
O'r bridiau a ganlyn:
Daeargi Jack Russell
Daeargi Byrgoes
Daeargi Ardal y Llynnoedd
Daeargi Norfolk
ond nid cyfuniadau o fridiau.
Cwn hela, cyfeirio, cyrchu
O'r bridiau a restrir isod:
Brac yr Eidal
Adargi Llydaw
Cyfeirgi Hirflew yr Almaen
Cyfeirgi Byrflew yr Almaen
Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen
Visla Hwngari
Visla Gwifrflew Hwngari
Spinone'r Eidal
Ysbaengi Sbaen
Weimaraner
Griffon Korthals
Cyfeirgi Crychflew Slofacia
Munsterlander Mwyaf
Munsterlander Lleiaf
ATODLEN 2Ffurf y Dystysgrif
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)