Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “PIC” (“HPW”) yw'r corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru (Health Professions Wales) ac a sefydlwyd gan Orchymyn 2004;
Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru2.
Diddymir PIC.
Dirymu Gorchmynion3.
Trosglwyddo Staff4.
Ar 1 Ebrill 2006—
(a)
yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg;
(b)
bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)
bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogaeth gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â sicrhau ansawdd cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth naill ai ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Trosglwyddo pob eiddo a chofnod5.
Ar 1 Ebrill 2006—
(a)
yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd pob eiddo yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b)
bydd y les y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)
Gorfodi hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau6.
(1)
Mae unrhyw hawl y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi gan neu yn erbyn PIC yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2)
Mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi yn erbyn PIC, yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dirwyn i ben faterion Proffesiynau Iechyd Cymru7.
(1)
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion PIC gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy PIC.
(2)
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 1 Hydref 2006.
(3)
Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
(a)
archwilio ac ardystio cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (2); a
(b)
gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd ag adroddiad arnynt.
YR ATODLENTROSGLWYDDO EIDDO
Y Mae'r Gorchymyn Hwn Yn Gymwys Iddo
Mangreoedd swyddfa ar ail lawr Golate House, Heol Eglwys Fair, Caerdydd a gynhwysir mewn les dyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd(1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru(2).
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ar 1 Ebrill 2006 y corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru ac a sefydlwyd o dan adran 4 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003. Mae'r Gorchymyn yn dirymu'r Gorchmynion a bennir yn erthygl 3 ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo a chofnodion. Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer dirwyn i ben faterion y corff.