xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
21 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 67(3), (7)(a),(c),(e) ac (i) ac Atodlen 5 o Ddeddf Plant 2004 (1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) 31 Mawrth 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 26 o'r Ddeddf (Cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) i rym.
(2) 1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a)Adran 28 (1)(a) i (c) ac (i), (2) (i'r graddau y bônt yn berthnasol i'r personau a chyrff y cyfeirir atynt yn isadran (1)(a) i (c) ac (i)), (3) a (4) (Trefniadau i ddiogelu a hybu lles: Cymru);
(b)Adran 44 (Maethu preifat: diwygiadau i'r cynllun hysbysu);
(c)Adran 48 ac Atodlen 4 (ac eithrio paragraff (5) o'r Atodlen honno) (Gwarchod plant a gofal dydd);
(ch)Adran 53 (Canfod dymuniadau plant);
(d)Adran 54 (Gwybodaeth am blant unigol);
(dd)Adran 55 (Pwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol) ;
(e)Adran 61 (Comisiynydd Plant Cymru: pwerau mynediad); a
(f)Rhannau 1 (i'r graddau y mae'n berthnasol i Adran 5 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2)), 2 a 4 o Atodlen 5 (Diddymiadau).
(3) 1 Medi 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a)Adran 27 (Cyfrifoldeb am swyddogaethau o dan adrannau 25 a 26); a
(b)Rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio'r darpariaethau sy'n berthnasol i baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989(3)) o Atodlen 5 (Diddymiadau).
(4) 1 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a)Adran 30 (Archwilio swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf);
(b)Adran 32 (Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);
(c)Adran 33 (Cyllido Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);
(ch)Adran 34 (Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru: atodol);
(d)Adran 50 (Ymyrraeth);
(dd)Adran 52 (Dyletswydd awdurdodau lleol i hybu cyflawniad addysgol); a
(e)Adran 56 (Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Ddeddf Plant 2004(5) (“y Ddeddf”) ac mae'n gymwys i Gymru.
Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 26 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2006. Daw adrannau 28(1)(a) i (c) ac (i), (2) (i'r graddau y bônt yn berthnasol i'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt yn isadran (1)(a) i (c) ac (i)), (3) a (4), 44, 48, 53, 54, 55 a 61, Atodlen 4 (ac eithrio paragraff (5) o'r Atodlen honno) a rhannau 1 (i'r graddau y mae yn berthnasol i adran 5 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(6)), 2 a 4 o Atodlen 5 i rym ar 1 Ebrill 2006. Daw adran 27 a rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (7)) o Atodlen 5 i rym ar 1 Medi 2006. Daw adrannau 30, 32, 33, 34, 50, 52 a 56 i rym ar 1 Hydref 2006.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 10 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 11 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 11 o ran Lloegr (y gweddill) | 1 Hydref 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 13 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 14 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 16 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 17 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 18 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 20 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 21 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 22 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 23 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 24 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 35 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 36 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 37 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 38 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 39 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 40 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 41 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 42 o ran Cymru | 16 Mawrth 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 43 o ran Cymru | 16 Mawrth 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Adran 44 (yn rhannol) o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 44 (y gweddill) o ran Lloegr | 1 Gorffennaf 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 48 (yn rhannol) o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 48 (y gweddill) o ran Lloegr | 3 Hydref 2005 | 2005/2298 (C.97) |
Adran 50 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 51 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 52 o ran Lloegr | 1 Gorffennaf 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 53 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 54 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 55 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 57 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 57 o ran Cymru | 30 Rhagfyr 2005 | 2005/3363 (Cy.260) (C.143) |
Adran 60 | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Adran 62 | 12 Ebrill 2005 | 2005/847 (C.35) |
Atodlen 3 o ran Cymru | 1 Ebrill 2005 | 2005/700 (Cy.59) (C.30) |
Atodlen 4, paragraffau 1 (yn rhannol), 2,5,7,8, a 9 o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Atodlen 4, paragraffau 1 (y gweddill), 3,4 a 6 o ran Lloegr | 3 Hydref 2005 | 2005/2298 (C.97) |
Atodlen 5, Rhan 1 a 2 (yn rhannol) o ran Lloegr | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |
Atodlen 5, Rhan 2 (y gweddill) o ran Lloegr | 3 Hydref 2005 | 2005/2298 (C.97) |
Atodlen 5, Rhan 3 a 4 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2005 | 2005/394 (C.18) |
Atodlen 5, Rhan 6 | 1 Mawrth 2005 | 2005/394 (C.18) |