Search Legislation

Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 885 (Cy.85) (C.23)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

21 Mawrth 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 67(3), (7)(a),(c),(e) ac (i) ac Atodlen 5 o Ddeddf Plant 2004 (1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Diwrnod Penodedig

2.—(131 Mawrth 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 26 o'r Ddeddf (Cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) i rym.

(21 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

(a)Adran 28 (1)(a) i (c) ac (i), (2) (i'r graddau y bônt yn berthnasol i'r personau a chyrff y cyfeirir atynt yn isadran (1)(a) i (c) ac (i)), (3) a (4) (Trefniadau i ddiogelu a hybu lles: Cymru);

(b)Adran 44 (Maethu preifat: diwygiadau i'r cynllun hysbysu);

(c)Adran 48 ac Atodlen 4 (ac eithrio paragraff (5) o'r Atodlen honno) (Gwarchod plant a gofal dydd);

(ch)Adran 53 (Canfod dymuniadau plant);

(d)Adran 54 (Gwybodaeth am blant unigol);

(dd)Adran 55 (Pwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol) ;

(e)Adran 61 (Comisiynydd Plant Cymru: pwerau mynediad); a

(f)Rhannau 1 (i'r graddau y mae'n berthnasol i Adran 5 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2)), 2 a 4 o Atodlen 5 (Diddymiadau).

(31 Medi 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

(a)Adran 27 (Cyfrifoldeb am swyddogaethau o dan adrannau 25 a 26); a

(b)Rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio'r darpariaethau sy'n berthnasol i baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989(3)) o Atodlen 5 (Diddymiadau).

(41 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

(a)Adran 30 (Archwilio swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf);

(b)Adran 32 (Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);

(c)Adran 33 (Cyllido Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);

(ch)Adran 34 (Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru: atodol);

(d)Adran 50 (Ymyrraeth);

(dd)Adran 52 (Dyletswydd awdurdodau lleol i hybu cyflawniad addysgol); a

(e)Adran 56 (Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Ddeddf Plant 2004(5) (“y Ddeddf”) ac mae'n gymwys i Gymru.

Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 26 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2006. Daw adrannau 28(1)(a) i (c) ac (i), (2) (i'r graddau y bônt yn berthnasol i'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt yn isadran (1)(a) i (c) ac (i)), (3) a (4), 44, 48, 53, 54, 55 a 61, Atodlen 4 (ac eithrio paragraff (5) o'r Atodlen honno) a rhannau 1 (i'r graddau y mae yn berthnasol i adran 5 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(6)), 2 a 4 o Atodlen 5 i rym ar 1 Ebrill 2006. Daw adran 27 a rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (7)) o Atodlen 5 i rym ar 1 Medi 2006. Daw adrannau 30, 32, 33, 34, 50, 52 a 56 i rym ar 1 Hydref 2006.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—

DarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 10 o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Adran 11 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 11 o ran Lloegr (y gweddill)1 Hydref 20052005/394 (C.18)
Adran 13 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 14 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 16 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 17 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 18 o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Adran 20 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 21 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 22 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 23 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 24 o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Adran 35 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 36 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 37 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 38 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 39 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 40 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 41 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 42 o ran Cymru16 Mawrth 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 43 o ran Cymru16 Mawrth 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Adran 44 (yn rhannol) o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Adran 44 (y gweddill) o ran Lloegr1 Gorffennaf 20052005/394 (C.18)
Adran 48 (yn rhannol) o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 48 (y gweddill) o ran Lloegr3 Hydref 20052005/2298 (C.97)
Adran 50 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 51 o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Adran 52 o ran Lloegr1 Gorffennaf 20052005/394 (C.18)
Adran 53 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 54 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 55 o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Adran 57 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 57 o ran Cymru30 Rhagfyr 20052005/3363 (Cy.260) (C.143)
Adran 601 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Adran 6212 Ebrill 20052005/847 (C.35)
Atodlen 3 o ran Cymru1 Ebrill 20052005/700 (Cy.59) (C.30)
Atodlen 4, paragraffau 1 (yn rhannol), 2,5,7,8, a 9 o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Atodlen 4, paragraffau 1 (y gweddill), 3,4 a 6 o ran Lloegr3 Hydref 20052005/2298 (C.97)
Atodlen 5, Rhan 1 a 2 (yn rhannol) o ran Lloegr1 Mawrth 20052005/394 (C.18)
Atodlen 5, Rhan 2 (y gweddill) o ran Lloegr3 Hydref 20052005/2298 (C.97)
Atodlen 5, Rhan 3 a 4 o ran Lloegr1 Ebrill 20052005/394 (C.18)
Atodlen 5, Rhan 61 Mawrth 20052005/394 (C.18)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources