xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru— gweler adran 211.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel a ganlyn—

Mae adran 35 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â staffio ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'n disodli'r trefniadau a nodwyd yn adran 54 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) ac Atodlen 16 iddi. Mae'n darparu mai'r AALl yw cyflogwr staff yr ysgolion hyn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod y staff hyn yn cynnwys prifathro neu brifathrawes. Mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar benodi staff yr ysgolion hyn, eu disgyblu, eu hatal dros dro a'u diswyddo.

Mae adran 36 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â staffio ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig, gan ddisodli'r trefniadau a nodwyd yn adran 55 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 17 iddi. Mae'n darparu mai'r corff llywodraethu yw cyflogwr staff yr ysgolion hyn, oni bai bod rheoliadau yn datgan fel arall. Rhaid i'r staff gynnwys prifathro neu brifathrawes. Rhoddir pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar benodi staff yr ysgolion hyn, eu disgyblu, eu hatal dros dro a'u diswyddo.

Mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer y trefniadau staffio sydd i fod yn gymwys yn lle rheoliadau o dan adran 34 neu 35 os caiff cyllideb ddirprwyedig ysgol ei hatal dros dro.

Mae adran 37 yn ailddeddfu adran 57 o Ddeddf 1998 ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â thaliadau mewn perthynas â diswyddo staff o ysgolion a gynhelir.

Mae Adran 40 ac Atodlen 3 yn diwygio Deddf 1998 o ganlyniad i'r trefniadau staffio newydd.