Sefydlodd adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”) Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1953.
Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi yw mai prif swyddogaeth y Cyngor bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).
Mae'r Cyngor wedi'i bennu yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.
Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth, fel y mae, yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Cyngor o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).
Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.
Mae adran 28(4) yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.
Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.
Yn unol â hynny—
mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Cyngor ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau, y dirymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau ac offerynnau eraill.