Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)
YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru; ac
ystyr “Deddf 1953” (“the 1953 Act”) yw Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953.
Diddymu'r Cyngor2.
(1)
Diddymir y Cyngor.
(2)
Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Cyngor hawl iddynt, a phob rhwymedigaeth y mae'r Cyngor yn ddarostyngedig iddi, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiadau canlyniadol3.
(1)
Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(a)
adrannau 2 (i'r graddau y mae'r adran honno'n gymwys i adran 3), 3 a 9(1) o Ddeddf 1953;
(b)
(2)
Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(a)
(b)
(3)
Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—
(a)
yn lle “the appropriate Commission or Council”, rhodder “the Commission”;
(b)
ar ôl “accepting any property”, mewnosoder “situated in England”;
(c)
ar ôl “dealing with any”, mewnosoder “such”; ac
(ch)
yn lle “the said Commission or Council”, rhodder “the Commission”.
(4)
Yn—
(a)
(b)
yn lle “Historic Buildings Council”, rhodder “National Assembly”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Sefydlodd adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”) Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1953.
Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi yw mai prif swyddogaeth y Cyngor bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).
Mae'r Cyngor wedi'i bennu yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.
Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth, fel y mae, yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Cyngor o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).
Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.
Mae adran 28(4) yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.
Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.
Yn unol â hynny—
mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Cyngor ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau, y dirymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau ac offerynnau eraill.