2006 Rhif 617 (Cy.69)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaeth 19701 a chan ei fod wedi ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd3 a mesurau ym maes milfeddygaeth er diogelu iechyd y cyhoedd4.

Bu ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu fel sy'n briodol yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5.