2006 Rhif 519 (Cy.63)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 19641 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2, ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: