Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cynnwys yr wybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau, mynegiadau a dogfennau cysylltiedig o ran hawliau tramwy cyhoeddus ac sydd i'w chadw, a'r ffordd y mae'r wybodaeth honno i'w chadw, ar gofrestrau a sefydlir ac a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“Deddf 1981”) (fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf CGHT”)) a Deddf Priffyrdd 1980 (“Deddf 1980”) (fel y'i mewnosodwyd gan baragraffau 4 a 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT).

Bydd y cofrestrau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau a wnaed, a mynegiadau a gyflwynwyd, i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol dros hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal o dan sylw, ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â dogfennau a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw.

O dan adran 31A o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth am fapiau a datganiadau a adneuwyd, a datganiadau a gyflwynwyd, gan berchenogion tir mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir. Mae mapiau, datganiadau a mynegiadau o'r fath yn galluogi perchenogion tir i gydnabod yn ffurfiol fodolaeth hawliau tramwy cyhoeddus dros eu tir ac, wrth wneud hynny, yn creu rhagdybiaeth nad oes bwriad i gyflwyno unrhyw lwybrau pellach dros eu tir.

O dan adran 53B o Ddeddf 1981 (a fewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo ac sy'n gofyn am newidiadau i'w fap diffiniol neu ddatganiad, sef y dogfennau hynny sy'n ffurfio cofnod swyddogol yr awdurdod o'i hawliau tramwy cyhoeddus.

O dan adran 121B o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo gan berchenogion, lesddeiliaid neu feddianwyr unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ar gyfer bridio neu gadw ceffylau, ar gyfer gorchmynion dileu llwybrau cyhoeddus a gorchmynion gwyro.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chofnodi ar bob un o'r tair cofrestr.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chofnodi mewn perthynas â chofrestr adran 53B a chofrestr adran 121B yn ôl eu trefn.

Mae rheoliadau 6 i 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y ffordd y mae'r cofrestrau i'w cadw, gan gynnwys y ddyletswydd sydd ar awdurdod i dynnu oddi ar gofrestr enw a chyfeiriad unrhyw berson os byddai peidio â gwneud hynny yn achosi niwed neu ofid (rheoliad 7).

Diben y cofrestrau yw cynyddu gwybodaeth ymhlith perchenogion tir a'r cyhoedd am faterion a allai arwain at newidiadau i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus; osgoi dyblygu pan fo mwy nag un person efallai yn ystyried gwneud cais i awdurdod lleol am yr un newid i'r map diffiniol a'r datganiad; cynyddu sicrwydd ynghylch pa lwybrau neu ffyrdd y mae perchenogion tir yn bwriadu eu cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus; a chynorthwyo awdurdodau lleol i reoli eu swyddogaethau o ran hawliau tramwy cyhoeddus.