Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Gwneir y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 a chynhwysir y fframwaith manwl ar gyfer gweithredu'r Rheoliad Cyngor hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud amryw daliadau grant i unrhyw berson sy'n ymrwymo i gytundeb gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'r person hwnnw'n cytuno i gymryd rhan yng nghynllun amaeth-amgylcheddol Tir Cynnal.

Nod cynllun Tir Cynnal yw darparu cyfleoedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru i gymryd rhan mewn gwaith o natur amaeth-amgylcheddol ar eu tir drwy ddilyn set sylfaenol o amodau a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn er mwyn gwarchod ardaloedd a nodweddion o bwys amgylcheddol ar eu tir. Mae'r Cynllun yn gofyn am lefelau o warchodaeth amgylcheddol sy'n uwch na gofynion y gyfraith a thraws-gydymffurfio, ond nid ydynt mor gaeth â rhai Tir Gofal.

Nod cynllun Tir Cynnal yw rhwystro bioamrywiaeth rhag cael ei golli, diogelu nodweddion tirwedd, diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleihau llygredd.

Os yw buddiolwr cynllun Tir Cynnal yn darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu os torrir y cytundeb Tir Cynnal, yna caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal taliadau grant yn y dyfodol neu adennill, o ofyn amdano, unrhyw grant a dalwyd eisoes i'r buddiolwr.

Os yw'n fwriad gan y Cynulliad Cenedlaethol i atal neu adennill grant, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r buddiolwr a chaniatáu i'r buddiolwr wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol o amser. Rhaid rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Cynhyrchwyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer yr offeryn hwn, a gellir cael copïau ohono gan Is-adran yr Amgylchedd, Cadwraeth a Rheoli, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.