http://www.legislation.gov.uk/wsi/2006/357/contents/made/welsh
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005 (O.S. 2005/360 (Cy.29)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1) (“Rheoliad y Cyngor”), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t.1) (“Rheoliad y Comisiwn 795/2004”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796 /2004 (O.J. L141, 30.4.2004, t.18) (“Rheoliad y Comisiwn 796/2004”) mewn perthynas â sefydlu system newydd o gynlluniau cymorth uniongyrchol (gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl) o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Daeth y system newydd hon yn effeithiol ar 1 Ionawr 2005.