2006 Rhif 3452 (Cy. 313)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran Polisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2006.

Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 20062

1

Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 20063 wedi'u diwygio'n unol â'r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 16(4), yn lle “1 January 2007” rhodder “1 Ebrill 2007”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

Rhodri Morgan AC/AMPrif Weinidog Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy. 153)) (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r prif Reoliadau i roi ei effaith i'r estyniad i waharddiad yr Undeb Ewropeaidd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t. 52) fel y'i diwygiwyd ar fewnforio adar caeth o drydydd gwledydd tan 31 Mawrth 2007.