Offerynnau Statudol Cymru
2006 Rhif 3452 (Cy. 313)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006
Wedi'u gwneud
21 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2006
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006
2.—(1) Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(3) wedi'u diwygio'n unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 16(4), yn lle “1 January 2007” rhodder “1 Ebrill 2007”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru
21 Rhagfyr 2006
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy. 153)) (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r prif Reoliadau i roi ei effaith i'r estyniad i waharddiad yr Undeb Ewropeaidd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t. 52) fel y'i diwygiwyd ar fewnforio adar caeth o drydydd gwledydd tan 31 Mawrth 2007.
