Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/45, Cy.4) (“y prif Reoliadau”).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: