xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Deddf”). Maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn gwneud darpariaeth i banel annibynnol adolygu mewn dau fath o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 nad yw'n bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn neu benderfyniad ar ôl adolygiad nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn. Mae penderfyniad o'r fath wedi'i bennu yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn fel penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Mae'r penderfyniadau hyn wedi'u pennu mewn rheoliad 13A newydd o'r Rheoliadau hynny fel penderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth panelau, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a gwaith cadw cofnodion y panelau sy'n cael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan geisir penderfyniad cymhwysol gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2.