xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Tachwedd 2006
Yn dod i rym
23 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1), â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.
(2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol” yw cwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ac—
(a)sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; a
(b)nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2. Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005(3), mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un a gyfeirir at baragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997(4) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,575” ym mhob man y'i gwelir rhodder “£1,625”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, rhodder “£12,470” yn lle “£12,182”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—
(1) Part of relevant income to which specified percentage applies | (2) Only assisted pupil (%) | (3) Each of two assisted pupils (%) | Each of three assisted pupils (%) |
---|---|---|---|
That part (if any) which exceeds £12,304 but does not exceed £13,380. | 9 | 6.75 | 5.25 |
That part (if any) which exceeds £13,380 but does not exceed £14,472. | 12 | 9 | 7 |
That part (if any) which exceeds £14,472 but does not exceed £16,637. | 15 | 11.25 | 8.75 |
That part (if any) which exceeds £16,637 but does not exceed £19,977. | 21 | 15.75 | 12.25 |
That part (if any) which exceeds £19,977 but does not exceed £24,331. | 24 | 18 | 14 |
That part (if any) which exceeds £24,331 | 35 | 24.75 | 19.25 |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 (“Rheoliadau 1997”) ymhellach.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn o beidio â chasglu yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 fel nas cesglir oddi wrtho ffioedd sy'n daladwy am addysg plentyn mewn ysgol annibynnol.
Mae'r swm sydd i'w dynnu o'r incwm perthnasol o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,575 i £1,625.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r prawf modd ar gyfer ad-dalu ffioedd: gosodir lefel yr incwm na chesglir y ffioedd, naill ai yn gyfangwbl neu'n rhannol, arno neu islaw iddo ar £12,470 yn lle £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yng ngraddau'r ad-daliadau pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw.
1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/1968. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1938 (Cy. 136), O.S. 2001/2680 (Cy. 221), O.S. 2002/1879 (Cy. 188), O.S. 2003/1854 (Cy. 204), O.S. 2004/1812 (Cy. 197) ac O.S. 2005/2838 (Cy. 202).