xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
25 Hydref 2006
Yn dod i rym
26 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79(4) o Ddeddf Tai 2004(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai(2) yng Nghymru.
2.—(1) Mae tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd sydd wedi'i chynnwys mewn tŷ yn denantiaeth esempt neu'n drwydded esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) os yw'n dod o dan unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol —
(a)tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd sy'n ddarostyngedig i orchymyn gwahardd a wnaed o dan adran 20 o'r Ddeddf ac nad yw ei weithredu wedi'i atal yn unol ag adran 23 o'r Ddeddf;
(b)tenantiaeth a ddisgrifir yn unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988(3) ac na all fod yn denantiaeth sicr yn rhinwedd adran 1(2) o'r Ddeddf honno —
(i)paragraff 4 (tenantiaethau busnes);
(ii)paragraff 5 (mangreoedd trwyddedig)(4);
(iii)paragraff 6 (tenantiaethau tir amaethyddol); neu
(iv)paragraff 7 (tenantiaethau daliadau amaethyddol(5) etc.);
(c)tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd a reolir neu a lywir gan —
(i)awdurdod tai lleol;
(ii)awdurdod heddlu a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Heddlu 1996(6);
(iii)awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(7); neu
(iv)corff gwasanaeth iechyd o fewn ystyr “health service body” yn adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(8);
(ch)tenantiaeth neu drwydded tŷ nad yw'n dŷ mewn amlfeddiannaeth at unrhyw un o ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) yn rhinwedd —
(v)paragraff 3 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (adeiladau a reoleiddir heblaw o dan y Ddeddf); neu
(vi)paragraff 4(1) o'r Atodlen honno (adeiladau sydd wedi'u meddiannu gan fyfyrwyr)(9);
(d)tenantiaeth tŷ neu annedd —
(i)pan fo tymor llawn y denantiaeth yn fwy nag 21 o flynyddoedd;
(ii)pan na fo'r brydles yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r landlord i terfynu'r denantiaeth, ac eithrio drwy ei fforffedu, yn gynharach na diwedd y tymor; a
(iii)pan fo'r tŷ wedi'i feddiannu neu'r annedd wedi'i meddiannu gan berson y rhoddwyd y denantiaeth iddo neu i olynydd y person hwnnw yn y teitl neu unrhyw aelodau o deulu'r person hwnnw;
(dd)tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd a roddwyd gan berson i berson sy'n aelod o deulu'r person cyntaf hwnnw —
(i)pan fo'r person y mae'r denantiaeth neu'r drwydded wedi'i rhoi iddo yn meddiannu'r tŷ neu'r annedd fel ei unig neu brif breswylfan;
(ii)pan fo'r person sy'n rhoi'r denantiaeth neu'r drwydded yn rhydd-ddeiliad neu ddeiliad prydles ar y tŷ neu'r annedd nad yw ei thymor llawn yn hwy nag 21 o flynyddoedd; a
(iii)pan na fo'r brydles y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (ii) yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r landlord i terfynu'r denantiaeth, ac eithrio drwy ei fforffedu, yn gynharach na diwedd y tymor;
(e)tenantiaeth neu drwydded a roddir i berson mewn perthynas â meddiannaeth y person hwnnw ar dŷ neu annedd fel cartref gwyliau; neu
(f)tenantiaeth neu drwydded y mae'r meddiannydd yn rhannu unrhyw lety sydd o dan ei thelerau â'r landlord neu'r trwyddedwr neu aelod o deulu'r landlord neu deulu'r trwyddedwr.
(2) At ddibenion yr erthygl hon —
(a)mae person yn aelod o'r un teulu â pherson arall —
(i)os yw'r personau hynny'n byw fel cwpl;
(ii)os yw'r naill ohonynt yn berthynas i'r llall; neu
(iii)os yw'r naill yn un aelod o gwpl, neu'n berthynas i'r aelod hwnnw, a'r llall yn berthynas i aelod arall y cwpl;
(b)ystyr “cwpl” (“couple”) yw dau berson sy'n briod â'i gilydd neu'n byw gyda'i gilydd fel gwr a gwraig (neu mewn perthynas gyfatebol yn achos personau o'r un rhyw);
(c)ystyr “perthynas” (“relative”) yw rhiant, taid neu nain (tad-cu neu fam-gu), plentyn, wyr neu wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai, nith, neu gefnder neu gyfnither;
(ch)mae perthynas hanner gwaed i'w drin fel perthynas gwaed coch cyfan;
(d)mae llysblentyn person i'w drin fel plentyn y person hwnnw;
(dd)mae meddiannydd yn rhannu llety â pherson arall os yw'r meddiannydd yn cael defnyddio amwynder yn gyffredin â'r person hwnnw (p'un ai'n gyffredin ag eraill hefyd ai peidio); ac
(e) mae “amwynder” (“amenity”) yn cynnwys toiled, cyfleusterau ymolchi personol, cegin neu ystafell fyw ond nid yw'n cynnwys unrhyw fan a ddefnyddir i storio, grisiau, coridor, neu fynedfa arall.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r disgrifiadau o denantiaethau a thrwyddedau tai, neu o denantiaethau a thrwyddedau anheddau sydd wedi'u cynnwys mewn tai, a'r rheini'n denantiaethau esempt neu'n drwyddedau esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”). Effaith yr esemptiad yw nad yw Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys i dai yng Nghymru sy'n ddarostyngedig i denantiaeth neu drwydded a ddisgrifir yn erthygl 2 ac nad ydynt felly yn ddarostyngedig i'r gofynion trwyddedu a ddisgrifir yn adran 85 o'r Ddeddf.
Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920 825111; e-bost: HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).
2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 79(4) o'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1).
Am ystyr “house” gweler adran 99 o'r Ddeddf.
Mae paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 198(1) o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraff 108 o Atodlen 6 iddi (p. 17).
Mae paragraff 7 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 a pharagraff 34 o Atodlen 6 iddi (p. 8).
Gweler adran 254(5) o'r Ddeddf.