xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) yn ymdrin â gwneud gorchmynion rheoli anheddau gwag (GRhAG) interim a rhai terfynol y caniateir i awdurdod tai lleol eu gwneud ynghylch anheddau sy'n gyfan gwbl anfeddianedig.
Mae GRhAG interim yn orchymyn sy'n cael ei wneud gan awdurdod tai lleol i'w alluogi i gymryd camau er mwyn sicrhau bod annedd yn dod, ac yn parhau i fod, yn un sydd wedi'i meddiannu. Gwneir GRhAG terfynol i olynu GRhAG interim er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu. (Adran 132 o'r Ddeddf).
Rhaid i awdurdod tai lleol wneud ymdrech resymol i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim ac i ganfod pa gamau y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu. Mae angen awdurdodiad tribiwnlys eiddo preswyl i wneud gorchymyn o'r fath. Ni fydd tribiwnlys eiddo preswyl yn awdurdodi gwneud GRhAG interim os yw wedi'i fodloni bod yr achos yn dod o dan eithriad rhagnodedig. (Adran 133 o'r Ddeddf).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r eithriadau at ddibenion awdurdodiad tribiwnlys eiddo preswyl.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r gofynion ychwanegol y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â hwy wrth wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am awdurdodi GRhAG interim.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk