Pwerau swyddogion awdurdodedig8

1

Caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog, arfer y pwerau a bennir yn y paragraff hwn at ddiben sicrhau —

a

p'un a oes gan berson hawl i wneud cais o dan baragraff 3 ac i ba raddau y mae ganddo hawl;

b

p'un a gydymffurfiwyd ag amodau o dan baragraffau 3(1) a 5(1) ac i ba raddau y cydymffurfiwyd â hwy;

c

p'un a gafodd tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ei gyflawni, neu a yw'n cael ei gyflawni, ac i ba raddau, ac

ch

p'un a yw'r ddyfais olrhain drwy loeren yn gweithio ac i ba raddau.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre berthnasol.

3

Dim ond pan fydd rhybudd rhesymol o'r bwriad i arfer y pŵer wedi'i roi i holl breswylwyr yr anhedd-dy hwnnw y caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2) mewn perthynas â mangre a ddefnyddir fel anhedd-dy.

4

Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn unol ag is-baragraff (2) arolygu'r fangre honno ac unrhyw ddogfennau yn y fangre honno sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae'n rhesymol i swyddog fod o'r farn eu bod yn ddogfennau perthnasol.

5

Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn fynd â'r cyfryw berson arall y mae'r swyddog o'r farn ei fod yn angenrheidiol gydag ef ac mae is-baragraffau (2), (4), (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfryw berson arall pan fydd hwnnw'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog fel pe bai ef yn swyddog awdurdodedig.

6

Caiff swyddog awdurdodedig—

a

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n geisydd neu'n gyflogai neu'n asiant ceisydd gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a chyflenwi'r cyfryw wybodaeth ychwanegol ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdanynt neu amdani, sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cais;

b

arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os cedwir y cyfryw ddogfennau drwy gyfrwng cyfrifiadur, gael mynd at unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny i arolygu a gwirio eu gweithrediaeth;

c

ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu ddetholiadau ohonynt, gael eu cyflwyno, ac

ch

arolygu unrhyw gyfarpar ar y cwch pysgota y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys y ddyfais olrhain drwy loeren, a mynd â'r cyfarpar i ffwrdd i'w arolygu ymhellach.

7

Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth i'r swyddog, yn honedig, arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Cynllun hwn os yw'r llys sy'n gwrando'r cyfryw achos yn fodlon—

a

bod y weithred wedi ei gwneud mewn modd didwyll;

b

bod seiliau rhesymol dros ei gwneud, ac

c

ei bod wedi ei gwneud gyda sgil a gofal rhesymol.

8

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef,

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gwch pysgota neu gyfrwng cludo arall, ac

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw fangre lle y cedwir y dogfennau perthnasol neu lle y mae'n rhesymol i swyddog awdurdodedig fod o'r farn y byddo'r cyfryw ddogfennau'n cael eu cadw.