Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

8.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog, arfer y pwerau a bennir yn y paragraff hwn at ddiben sicrhau —

(a)p'un a oes gan berson hawl i wneud cais o dan baragraff 3 ac i ba raddau y mae ganddo hawl;

(b)p'un a gydymffurfiwyd ag amodau o dan baragraffau 3(1) a 5(1) ac i ba raddau y cydymffurfiwyd â hwy;

(c)p'un a gafodd tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ei gyflawni, neu a yw'n cael ei gyflawni, ac i ba raddau, ac

(ch)p'un a yw'r ddyfais olrhain drwy loeren yn gweithio ac i ba raddau.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre berthnasol.

(3Dim ond pan fydd rhybudd rhesymol o'r bwriad i arfer y pŵer wedi'i roi i holl breswylwyr yr anhedd-dy hwnnw y caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2) mewn perthynas â mangre a ddefnyddir fel anhedd-dy.

(4Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn unol ag is-baragraff (2) arolygu'r fangre honno ac unrhyw ddogfennau yn y fangre honno sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae'n rhesymol i swyddog fod o'r farn eu bod yn ddogfennau perthnasol.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn fynd â'r cyfryw berson arall y mae'r swyddog o'r farn ei fod yn angenrheidiol gydag ef ac mae is-baragraffau (2), (4), (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfryw berson arall pan fydd hwnnw'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog fel pe bai ef yn swyddog awdurdodedig.

(6Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n geisydd neu'n gyflogai neu'n asiant ceisydd gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a chyflenwi'r cyfryw wybodaeth ychwanegol ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdanynt neu amdani, sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cais;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os cedwir y cyfryw ddogfennau drwy gyfrwng cyfrifiadur, gael mynd at unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny i arolygu a gwirio eu gweithrediaeth;

(c)ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu ddetholiadau ohonynt, gael eu cyflwyno, ac

(ch)arolygu unrhyw gyfarpar ar y cwch pysgota y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys y ddyfais olrhain drwy loeren, a mynd â'r cyfarpar i ffwrdd i'w arolygu ymhellach.

(7Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth i'r swyddog, yn honedig, arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Cynllun hwn os yw'r llys sy'n gwrando'r cyfryw achos yn fodlon—

(a)bod y weithred wedi ei gwneud mewn modd didwyll;

(b)bod seiliau rhesymol dros ei gwneud, ac

(c)ei bod wedi ei gwneud gyda sgil a gofal rhesymol.

(8Yn y paragraff hwn—

ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef,

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gwch pysgota neu gyfrwng cludo arall, ac

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw fangre lle y cedwir y dogfennau perthnasol neu lle y mae'n rhesymol i swyddog awdurdodedig fod o'r farn y byddo'r cyfryw ddogfennau'n cael eu cadw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources