- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, gyhoeddi gwahoddiad am geisiadau a phan fydd yn gwneud hynny bydd darpariaethau canlynol y paragraff hwn yn gymwys.
(2) Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fel a bennir yn y gwahoddiad ar neu cyn y dyddiad cau er mwyn i'r cais gael ei ystyried ar gyfer ei gymeradwyo ac eithrio pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon—
(a)bod amgylchiadau arbennig y ceisydd yn ei gwneud yn afresymol i ddisgwyl bod ei gais yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau, a
(b)bod y dyddiad erbyn pryd y cyflwynir y cais mor gynnar ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl, yn yr amgylchiadau hynny.
(3) Yn y Cynllun hwn ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r cyfryw ddyddiad a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol pryd neu cyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod unrhyw gais sy'n ymwneud â chwch pysgota os yw o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi'i newid ac mai prif ddiben ei newid oedd gwneud y cwch yn gymwys i gais gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
(5) Yn sgil rhoi cymeradwyaeth, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant sy'n gyfwerth â chyfanswm y canlynol, fel y cytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r ceisydd llwyddiannus—
(a)pris y ddyfais olrhain drwy loeren;
(b)costau gosod y ddyfais olrhain drwy loeren ar fwrdd y cwch y cyflwynwyd y cais mewn cysylltiad ag ef, ac
(c)pris gwarant tair blynedd ar gyfer y ddyfais olrhain drwy loeren,
a fydd yn daladwy yn unol â darpariaethau canlynol y Cynllun hwn.
(6) Rhaid i'r costau a bennir yn is-baragraff (5)(b) beidio â chynnwys unrhyw gost a dynnir yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn cysylltiad â chuddio'r ddyfais olrhain drwy loeren, y ceblau a'r gwifrau sy'n gysylltiedig â hi, neu unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar cysylltiedig arall, a hynny at ddibenion cosmetig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: