Dehongli2.

(1)

Yn y Cynllun hwn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth i gais;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 19954,

(b)

neu—

  1. (i)

    sydd o dan berchenogaeth lwyr neu rannol personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno, ond

  2. (ii)

    nad yw'n gwch sydd, yn unig o ganlyniad i gymhwyso iddo adran 1(1)(c) o'r Ddeddf honno yn rhinwedd ei gofrestru o dan ddeddf unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, yn cyfrif fel llong Brydeinig at ddibenion y Ddeddf honno;

ac y mae ei borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad cymhwyso;

ystyr “darparwr y Cynulliad” (“the Assembly provider”) yw darparwr a gosodwr dyfeisiau olrhain drwy loeren a ddewisir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliad;

mae i “dyfais olrhain drwy loeren” yr ystyr sydd i “satellite-tracking device” yn y Rheoliad;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â chwch pysgota, yw ei berchennog, ei siartrwr (os oes un), neu ei feistr neu gynrychiolydd unrhyw un ohonynt;

ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir o ran cwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19675;
ystyr “y Rheoliad”(“the Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren6; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw swyddog a awdurdodir yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Cynllun hwn.

(2)

Mae unrhyw rwymedigaeth sydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yn rhwymedigaeth i sicrhau bod y deunydd ar gael mewn dull a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ei gwneud yn rhesymol debygol y bydd y deunydd yn cael ei weld gan y rhai y gallai'r Cynllun hwn fod yn gymwys iddynt, ac mae cyhoeddi'r deunydd ymlaen llaw a chyn i'r Cynllun ddod i rym i'w drin at ddibenion y Cynllun hwn fel pe bai wedi'i gyflawni o dan y Cynllun.