2006 Rhif 2798 (Cy.237)
Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 19811 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 20 Hydref 2006.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Nid oes dim ym mharagraff (2) yn rhagfarnu effaith adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 19812 o ran unrhyw ddarpariaeth yn Gorchymyn hwn neu at ddibenion cysylltiedig ag ef sy'n creu tramgwydd.
Dehongli2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Canolfan Monitro Pysgodfeydd” (“Fisheries Monitoring Centre”) yw Canolfan Monitro Pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3(7) o Reoliad y Cyngor 2847/93;
ystyr “cwch pysgota Cymunedol” (“Community fishing boat”) yw cwch pysgota sy'n chwifio baner Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi cael ei gofrestru yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 19953 neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf;
ystyr “cwch pysgota trydedd gwlad” (“third country fishing boat”) yw llong bysgota sy'n chwifio baner gwladwriaeth ac eithrio Aelod-wladwriaeth o'r Cymunedau Ewropeaidd ac sydd wedi cael ei chofrestru yn y wladwriaeth honno ac mae'n cynnwys llong dderbyn yn ystyr Rheoliad y Cyngor 2847/93;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw Orchymyn arall a wneir at ddibenion gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn, sy'n rhychwantu unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ganddi effaith gyfatebol i ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, y gellir rhoi rheithdrefnau ar waith yng Nghymru ynglyn â hi yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981;
ystyr “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yw dyfais sy'n anfon yr wybodaeth sy'n ofynnol drwy gyfrwng lloeren a gorsaf ddaearol ar y tir i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd;
ystyr “person sydd â gofal” (“person in charge”), o ran cwch pysgota, yw perchennog, meistr neu'r siartrwr, os oes un, y cwch pysgota neu asiant unrhyw un ohonynt;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 2847/93” (“Council Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin5 fel y'i newidiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2870/956, Penderfyniad y Cyngor (EC) Rhif 95/5287, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2489/968, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 686/979, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2205/9710, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2635/9711, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2846/9812, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/200313, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1954/200314) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 768/200515);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren16); ac
ystyr “yr wybodaeth sy'n ofynnol” (“required information”) yw'r wybodaeth a osodir yn Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn.
2
Mae unrhyw gyfeiriad at lyfr lòg, datganiad, dogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol yn cynnwys, yn ogystal â llyfr lòg, datganiad, dogfen neu'r wybodaeth sy'n ofynnol mewn ysgrifen—
a
unrhyw fap, cynllun, graff, lluniad neu ddyddiadur;
b
unrhyw ffotograff;
c
unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); ac
ch
unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel (fel y crybwyllwyd ynghynt) atgynhyrchu'r delweddau ymhellach.
Cymhwyso3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn unig i gychod pysgota y mae Rheoliad y Comisiwn yn gymwys iddynt.
RHAN 2DARPARIAETHAU SY'N YMWNEUD Å CHYCHOD PYSGOTA PRYDEINIG A CHYCHOD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU
Cymhwyso Rhan 24
Mae erthyglau 5 i 9 yn gymwys i—
a
cychod pysgota Prydeinig yng Nghymru; a
b
cychod pysgota Cymunedol yng Nghymru;
Gosod dyfais olrhain drwy loeren5
1
Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y gellir ei diystyru â llaw yn euog o dramgwydd.
2
Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn sy'n caniatáu rhoi mewnbwn ac allbwn safleoedd anwir yn euog o dramgwydd.
3
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd heb ddyfais olrhain drwy loeren sy'n gweithio ar ei fwrdd yn euog o dramgwydd.
Gwahardd diffodd dyfais olrhain drwy loeren tra byddir mewn porthladd heb hysbysu ymlaen llaw6
Mae person sydd â gofal cwch pysgota lle diffoddwyd dyfais olrhain drwy loeren heblaw yn unol ag Erthygl 8(3) o Rheoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
Trosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol7
1
Mae person sydd â gofal cwch pysgota, y mae'r ddyfais olrhain drwy loeren sydd arno'n methu â throsglwyddo data gan gydymffurfio ag Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn fesul awr, yn euog o dramgwydd ac eithrio—
a
os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren yn trosglwyddo data gan gydymffurfio ag Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn fesul dwyawr a bod Canolfan Monitro Pysgodfeydd gwladwriaeth y faner yn gallu, yn unol ag Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, nodi safle gwirioneddol y cwch pysgota, neu
b
os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren wedi cael ei diffodd gan gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, neu
c
os caiff y data ei gyfathrebu gan gydymffurfio ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn.
Cyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r ddyfais olrhain drwy loeren8
1
Yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglŷn ag ef i gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglyn ag ef i gydymffurfio ag Erthyglau 6(2) (a), (b), (c) neu (d) o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir gydag Erthygl 11(4) o'r Rheoliad hwnnw, yn euog o dramgwydd.
3
Nid yw person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglyn ag ef i gydymffurfio ag Erthygl 6(2)(d) o Reoliad y Comisiwn, os yw'r rhanddirymiad yn Erthygl 12(1) o Rheoliad hwnnw yn gymwys, yn euog o dramgwydd.
4
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n mynd yn groes i Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
Methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio9
1
Os oes methiant technegol yn y ddyfais olrhain drwy loeren sydd ynglŷn â chwch pysgota neu os nad yw'r ddyfais olrhain drwy loeren ynglŷn ag ef yn gweithio, mae person sydd â gofal y cwch pysgota hwnnw ac sy'n methu â chyfathrebu gwybodaeth yn unol ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
2
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd yn groes i Erthygl 11(2) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
3
Yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 11(2) o Reoliad y Comisiwn yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
RHAN 3DARPARIAETHAU SY'N YMWNEUD Å CHYCHOD PYSGOTA TRYDEDD GWLAD YNG NGHYMRU
Cymhwyso Rhan 310
Mae erthyglau 11 i 14 yn gymwys i gychod pysgota trydedd gwlad yng Nghymru.
Gosod dyfais olrhain drwy loeren11
1
Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y gellir ei diystyru â llaw yn euog o dramgwydd.
2
Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn sy'n caniatáu rhoi mewnbwn ac allbwn safleoedd anwir yn euog o dramgwydd.
3
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sydd heb ddyfais olrhain drwy loeren sy'n gweithio ar ei fwrdd yn euog o dramgwydd.
Trosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol12
Mae person sydd â gofal cwch pysgota, y mae'r ddyfais olrhain drwy loeren sydd arno'n methu â throsglwyddo data i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd gwladwriaeth y faner gan gydymffurfio ag Erthyglau 18 a 20 o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
Cyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r ddyfais olrhain drwy loeren13
1
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 19(1) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
2
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 19(2) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
3
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n mynd yn groes i Erthygl 19(3) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
Methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio14
1
Os oes methiant technegol yn y ddyfais olrhain drwy loeren sydd ynglŷn â chwch pysgota neu os nad yw'r ddyfais olrhain drwy loeren ynglŷn ag ef yn gweithio, mae person sydd aa gofal y cwch pysgota hwnnw ac sy'n methu â chyfathrebu gwybodaeth yn unol ag Erthyglau 23(1) a 23(2) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
2
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd yn groes i Erthygl 23(3) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
3
Yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 23(3) o Reoliad y Comisiwn yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
RHAN 4COSBAU A CHASGLU DIRWYON
Cosbau15
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthyglau 5, 6, 7, 8, 9, 11, 12, 13 neu 14 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol yn agored—
a
o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na £50,000; neu
b
o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
Casglu dirwyon16
1
Os gosodir dirwy gan lys ynadon ar berson sydd â gofal cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y llys—
a
dyroddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â'r tramgwydd a gafodd ei gyflawni a'i offer pysgota a'i ddalfa ac unrhyw eiddo gan y person a gollfarnwyd at godi'r swm ar gyfer y ddirwy; a
b
gorchymyn dal gafael yn y cwch a'i offer a'i ddalfa am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis ar ôl dyddiad y collfarniad neu hyd nes y telir y ddirwy neu hyd nes y codir y swm ar gyfer y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
2
Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 198017 yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
3
Pan fydd gorchymyn, o ran dirwy ynghylch tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, o dan Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 198118 neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 199519 (y mae'r ddwy yn ymwneud â throsglwyddo dirwyon o un awdurdodaeth i un arall) yn pennu ardal cyfiawnder lleol yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi cael eu gosod gan lys yn yr ardal cyfiawnder lleol honno.
RHAN 5PWERAU SWYDDOGION PYSGODFEYDD MÔR PRYDEINIG
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn cysylltiad â chychod pysgota17
1
At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag—
a
cwch pysgota Prydeinig yng Nghymru;
b
cwch pysgota Cymunedol yng Nghymru; neu
c
cwch pysgota trydedd gwlad yng Nghymru.
2
Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.
3
Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y llong yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—
a
caiff chwilio am unrhyw gyfarpar ar y cwch, gan gynnwys dyfais olrhain drwy loeren, a chaiff eu harchwilio a chynnal profion arnynt, a'i gwneud yn ofynnol i'r personau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad a'r prawf;
b
caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, neu gyfarpar y cwch neu unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau eraill cysylltiedig neu unrhyw ddogfen ynglŷn â'r personau ar y bwrdd sydd dan ofal neu ym meddiant y person hwnnw;
c
at ddibenion canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol i unrhwy berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;
ch
caiff archwilio a chymryd copïau a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch, tra bydd y swyddog yn cwblhau unrhyw chwilio, archwilio neu arolygu y darperir ar ei gyfer o dan yr erthygl hon;
d
caiff ei gwneud yn ofynnol i feistr y cwch neu unrhyw berson sydd ar y pryd â gofal y cwch i roi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol ar ffurf weledol a darllenadwy y gellir mynd â hi oddi yno;
dd
os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff gymryd meddiant a dal gafael yn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd; a
e
caiff symud oddi yno, neu awdurdodi yn ysgrifenedig berson arall i symud oddi yno, y ddyfais olrhain drwy loeren, neu unrhyw ran ohoni, ac unrhyw gyfarpar arall ar fwrdd y cwch y mae'r swyddog o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn cadarnhau—
i
a fu ymyrraeth â'r ddyfais olrhain drwy loeren, neu
ii
a oes unrhyw gyfarpar arall ar fwrdd y cwch yn amharu ar drosglwyddo'r wybodaeth a nodir yn Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn
neu er mwyn archwilio, profi, trwsio neu ailosod y cyfryw gyfarpar.
4
Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—
a
ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu'r swyddog ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a
b
dal gafael, neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn dal gafael, yn y cwch yn y porthladd,
a phan fydd swyddog o'r fath yn dal gafael mewn cwch neu'n gwneud hynny'n ofynnol, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y delir gafael yn y cwch neu fod hynny'n ofynnol hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig ychwanegol a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig
Diogelu swyddogion18
Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n cynorthwyo swyddog o'r fath yn rhinwedd erthygl 17(2) o'r Gorchymyn hwn yn atebol mewn unrhyw reithdrefnau sifil neu droseddol am unrhyw beth a gaiff ei wneud wrth arfer yn honedig y pwerau a roddwyd yn rhinwedd erthygl 17 o'r Gorchymyn os yw'r llys wedi'i fodloni—
a
bod y weithred wedi cael ei gwneud mewn modd didwyll;
b
bod seiliau rhesymol dros ei gwneud; a
c
ei bod wedi cael ei gwneud gyda sgil resymol a gofal rhesymol.
Rhwystro etc19
1
Bydd unrhyw berson sydd—
a
ym methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddog o'r fath gan erthygl 17 o'r Gorchymyn hwn;
b
heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu
c
yn fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny, unrhyw berson sy'n cynorthwyo swyddog o'r fath yn rhinwedd erthygl 17(2) neu unrhyw swyddog a awdurdodwyd gan swyddog o'r fath o dan erthygl 17(3)(e),
yn euog o dramgwydd.
2
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored—
a
o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
b
o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
RHAN 6AMRYWIOL AC ATODOL
Darpariaethau o ran tramgwyddau a rheithdrefnau20
1
Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu gymeradwyaeth, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
2
Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae'r partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
3
Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r gymdeithas, mae'r swyddog hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Derbynioldeb tystiolaeth llyfrau lòg a dogfennau eraill21
Bydd unrhyw—
a
llyfr lòg a gedwir o dan Erthyglau 6, 17(2) neu 28c;
b
datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8(1), 11, 12, 17(2) neu 28f;
c
adroddiad ar ymdrech wedi'i gwblhau o dan Erthygl 19b a 19c; neu
ch
dogfen a luniwyd o dan Erthyglau 9 neu 13,
o Reoliad y Cyngor 2847/93 ac unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol a dderbynir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd, mewn unrhyw reithdrefnau am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan ddarpariaeth gyfatebol, yn cael eu derbyn yn dystiolaeth heb iddynt gael eu dangos gan unrhyw dyst neu fod unrhyw dyst yn mynd ar ei lw yn eu cylch a bydd yn dystiolaeth ddigonol o'r materion a ddatgenir ynddynt neu sy'n ymddangos ynddynt.
RHAN 7DIRYMU
Dirymu22
1
Dirymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 200020 .
2
Dirymir Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 200221
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199822.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)