2006 Rhif 2698 (Cy.230)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran Polisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 16 Hydref 2006.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 19992

1

Diwygir Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 19993 yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Yn lle paragraffau (c), (e) a (g) o reoliad 2 (Dehongli), rhodder y paragraffau canlynol—

c

“Commission Regulation” means Commission Regulation (EC) No 885/20064 laying down detailed rules for the application of the Council Regulation in relation to the accreditation of paying agencies

e

“the Council Regulation” means Council Regulation (EC) No 1290/20055 on the financing of the common agricultural policy, as last amended by Council Regulation (EC) No 320/20066;

g

“paying agency” has the meaning it has in Article 6 of the Council Regulation;

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999 (“Rheoliadau 1999).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac o ran daliadau amaethyddol trawsffiniol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) yn gyfrifol amdanynt fel asiantaeth dalu.

Mae Rheoliadau 1999 yn galluogi'r Cynulliad, os cafodd ei achredu'n briodol at y diben, i weithredu fel asiantaeth dalu yn y Deyrnas Unedig o ran cyllido'r polisi amaethyddol cyffredin.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru'r cyfeiriadau a wneir at ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn Rheoliadau 1999.