xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
21.—(1) Os bydd cynllun gweithredu neu ddiwygiad o gynllun gweithredu—
(a)wedi'i fabwysiadu yn unol â rheoliad 24; a
(b)yn nodi bod awdurdod cyhoeddus yn gyfrifol am weithred benodol,
rhaid i'r awdurdod cyhoeddus hwnnw drin y cynllun gweithredu fel pe bai'n bolisi iddo i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithred honno.
(2) Caiff awdurdod cyhoeddus wyro oddi wrth unrhyw bolisi a grybwyllir ym mharagraff (1)—
(a)os yw'n darparu ar gyfer—
(i)y Cynulliad, a
(ii)yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun gweithredu neu'r diwygiad (os nad y Cynulliad sy'n gyfrifol am hynny),
o roi rhesymau ysgrifenedig am wyro oddi wrth y polisi hwnnw; a
(b)os yw'n cyhoeddi'r rhesymau hynny.
(3) Yn y rheoliad hwn mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw'n cynnwys—
(a)Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi na pherson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â thrafodion yn y Senedd yn Llundain;
(b)llysoedd na thribiwnlysoedd; nac
(c)y Cynulliad.