2006 Rhif 2237 (Cy.199)
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 15(4), 32(2) a 88(2) Deddf Iechyd Anifeiliaid 19811 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Awst 2006.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 19922
Yn erthygl 2(1) (cymhwyso adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 19922 ar ôl “Epizootic haemorrhagic virus disease” mewnosoder “Equine infectious anaemia”.
Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 19963
Yn Rhan I o Atodlen 1 (Clefydau Penodedig) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 3 ar ôl “Epizootic haemorrhagic virus disease” mewnosoder “Equine infectious anaemia”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 19984.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)