Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi yng Nghymru ddarpariaethau monitro, arolygu a gwyliadwriaeth Rheoliad y Cyngor (EC) 811/2004 (OJ Rhif L150 30.4.2004, t.1).
Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch cofnodi a rhoi cyfrif o amser a dreulir ar y môr (erthygl 3), darpariaethau ar gyfer hysbysu gan gychod pysgota i gael mynd a glanio cegdduon gogleddol mewn porthladdoedd dynodedig (erthyglau 4 a 5), lwfans goddefiant ynghylch cofnodi dalfeydd o bysgod mewn llyfrau lòg (erthygl 6), darpariaeth ynghylch cymysgu rhywogaethau mewn cynwysyddion ar fwrdd cychod pysgota (erthygl 7) a gweithdrefnau ar gyfer cludo cegdduon gogleddol (erthygl 8).
Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes, gan y person sydd â gofal y cwch pysgota (neu'r unigolion y cyfeirir atynt yn benodol) i ddarpariaethau'r Rheoliad. Mae'r tramgwyddau'n ymwneud â methu â chofnodi a rhoi cyfrif o amser mewn llyfr lòg (erthygl 3), methu â darparu gwybodaeth benodol a/neu ddilyn cyfarwyddiadau swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig wrth lanio mewn porthladd dynodedig (erthygl 4), methu â glanio mewn porthladd dynodedig lle mae mwy na dwy dunnell o gegdduon gogleddol i gael eu glanio (erthygl 5), methu â chydymffurfio â'r goddefiant 8% ar gyfer cofnodion llyfrau lòg ynghylch dalfeydd o bysgod (erthygl 6), a chymysgu rhywogaethau a chludo cegdduon gogleddol (erthyglau 7 a 8) mewn modd sy'n anghyson â'r Rheoliad.
Mae erthyglau 9-16 yn gwneud darpariaethau ar gyfer gorfodi. Mae'r Gorchymyn yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd, heblaw am dramgwydd o dan erthygl 15, yn agored ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na £50,000 ac ar gollfarn ar dditiad i ddirwy. Caniateir dirwyon pellach hyd at a chan gynnwys gwerth unrhyw bysgod a gaiff eu dal wrth gyflawni'r tramgwydd a chaiff y llys hefyd orchymyn cymryd meddiant o'r pysgod a ddaliwyd neu'r cyfarpar a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd neu'r gweithgareddau sy'n arwain ato (erthygl 9).
Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer casglu'r dirwyon a gaiff eu gosod, neu pan ymdrinnir â hwy fel pe baent wedi'u gosod, gan lys ynadon (erthygl 10).
At ddibenion gorfodi'r darpariaethau uchod, mae'r Gorchymyn yn gosod ar swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig y pŵer i fynd i fangre, mynd ar fwrdd cychod pysgota, stopio a chwilio cerbydau sy'n cludo pysgod, archwilio pysgod, ei gwneud yn ofynnol i ddangos dogfennau, chwilio am ddogfennau a chymryd meddiant ohonynt, cymryd cwch i'r porthladd cyfleus agosaf a chymryd meddiant o bysgod ac offer pysgota (erthyglau 11-13). Gosodir diogelwch y swyddogion hynny rhag atebolrwydd yn erthygl 14, ac mae eu rhwystro yn dramgwydd o dan erthygl 15, gyda dirwy hyd at y mwyafswm statudol ar gollfarn ddiannod a dirwy ar gollfarn ar dditiad. Mae erthyglau 16 a 17 yn ymdrin â thramgwyddau corfforaethol a thramgwyddau cyfatebol a derbynioldeb dogfennau mewn tystiolaeth.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Atodiadau i'r Gorchymyn hwn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.