Dehongli2.
(1)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cegdduon gogleddol” (“northern hake”) yw cegdduon a gymerir o'r parth adfer cegdduon;
ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw Orchymyn arall a wneir at ddibenion gweithredu Rheoliad 811/04 ynghylch unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ganddi effaith gyfatebol i ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, y gellir rhoi rheithdrefnau ar waith yng Nghymru ynglyn â hi yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981;
mae i “llyfr lòg” (“logbook”) yr ystyr a roddir i “logbook” yn Rheoliad 2847/93 fel yr helaethir arno yn Rheoliad 2807/83, ac mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen neu lyfr lòg yn cynnwys—
(a)
unrhyw fap, cynllun, graff, lluniad neu ddyddiadur;
(b)
unrhyw ffotograff;
(c)
unrhyw ddata, ym mha ffordd bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren ac a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;
(d)
unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); a
(e)
unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd atgynhyrchu'r delweddau ymhellach;
ystyr “y parth adfer cegdduon” (“the hake recovery zone”) yw'r ardal a ddiffinnir yn Erthygl 1 o Reoliad 811/04;
ystyr “person â gofal” (“person in charge”), o ran cwch pysgota, yw'r perchennog, y meistr neu'r siartrwr, os oes un, y cwch pysgota neu asiant unrhyw un ohonynt;
(2)
Ceir trin unrhyw wybodaeth a roddir i unrhyw awdurdod at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn fel pe bai hefyd wedi'i rhoi at ddibenion darpariaeth gyfatebol.
(3)
Mae i ymadroddion yn y Gorchymyn hwn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad 811/04, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.