Darpariaethau o ran tramgwyddau

16.—(1Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, partner, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog o'r bartneriaeth neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.