xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhwystro swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig

15.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)ym methu heb esgus rhesymol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig gan erthyglau 11 a 12;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu

(c)yn ymosod ar berson sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan erthyglau 11 i 13 neu'n fwriadol yn ei lesteiro wrth iddo arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,

yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.