xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar dir

12.—(1At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethu cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig—

(a)mynd i unrhyw fangre a'i harchwilio ar unrhyw adeg resymol a honno'n cael ei defnyddio i redeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â gweithrediad cychod pysgota neu weithgareddau sy'n gysylltiedig ag ef neu'n atodol iddo neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod;

(b)mynd â'r personau eraill gydag ef y mae swyddog yn tybio eu bod yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn y fangre a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd yn y fangre yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(ch)cyflawni'r archwiliadau neu brofion eraill hynny yn y fangre a all fod yn rhesymol angenrheidiol;

(d)ei gwneud yn ofynnol nad oes neb yn symud neu'n peri symud unrhyw bysgod o'r fangre am y cyfnod hwnnw a all fod yn rhesymol angenrheidiol at ddibenion cadarnhau a gyflawnwyd tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol ar unrhyw adeg;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre ddangos unrhyw ddogfennau sydd dan ei ofal neu yn ei feddiant ynglŷn â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod neu ynglŷn â mynd a dod unrhyw gwch pysgota i unrhyw borthladd neu harbwr, neu ohono;

(e)at ddibenion canfod a oes unrhyw berson yn y fangre wedi cyflawni tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, chwilio'r fangre am unrhyw ddogfen o'r fath a'i gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;

(f)archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi yn y fangre;

(ff)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson priodol neu gyfrifol i roi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadur ar ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hi oddi yno; ac

(g)os oes gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd o dan unrhyw o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i chyflawni, cymryd meddiant a dal gafael mewn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi yn y fangre at ddibenion galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd;

(2Mae darpariaethau paragraff (1) uchod hefyd yn gymwys o ran unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), neu o ran unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol i gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo pysgod neu gynhyrchion pysgodfeydd, fel y maent yn gymwys o ran mangreoedd ac, yn achos cerbyd, mae'n cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cerbyd stopio ar unrhyw adeg ac, os yw'n angenrheidiol, cyfarwyddo'r cerbyd i ryw le arall er mwyn hwyluso'r archwiliad.

(3Os yw ynad heddwch ar sail gwybodaeth ysgrifenedig o dan lw wedi'i fodloni—

(a)bod sail resymol i gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig y pŵer o dan yr erthygl hon i'w harchwilio yn unrhyw fangre a bod eu harchwilio yn debygol o ddatgelu tystiolaeth o dramgwydd a gyflawnwyd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol; a

(b)naill ai—

(i)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu ei bod yn debygol y byddai'n cael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro'r amcan o fynd i'r fangre rhag cael ei gyflawni, neu fod y fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro ac y gallai rwystro'r amcan o fynd i'r fangre wrth ddisgwyl iddo ddychwelyd;

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo, ac sy'n ddilys am fis, awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r fangre, os oes angen drwy rym rhesymol, a mynd â phersonau eraill gydag ef y mae'r swyddog yn tybio eu bod yn angenrheidiol.