xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
11.—(1) At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota yng Nghymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y cwch yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol at y diben a grwybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—
(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol i'r personau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, gweithrediadiadau pysgota neu weithrediadau eraill cysylltiedig neu unrhyw ddogfen ynglŷn â'r personau ar y bwrdd sydd dan ofal neu ym meddiant y person hwnnw;
(c)at ddibenion canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff a'i gwneud yn ofynnol i unrhwy berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;
(ch)caiff archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch ac, os cedwir unrhyw ddogfen o'r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hi oddi yno; ac
(d)os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff gymryd meddiant a dal gafael yn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch at ddibenion galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd;
ond nid oes dim yn is-baragraff (d) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chymryd i feddiant a dal gafael ynddi ac eithrio tra delir gafael yn y cwch mewn porthladd.
(4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan erthygl 3, 6 neu 7, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw amser ynghylch cwch pysgota, caiff y swyddog—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch, neu ef ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a
(b)dal gafael, neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn dal gafael, yn y cwch yn y porthladd;
ac os bydd swyddog o'r fath yn dal gafael neu yn ei gwneud yn ofynnol y delir gafael ar y cwch bydd y swyddog yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y delir gafael ar y cwch (neu fod hynny'n ofynnol) hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig pellach a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.