Casglu dirwyon10.
(1)
Os gosodir dirwy gan lys ynadon ar berson sydd â gofal cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y llys—
(a)
dyroddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â'r tramgwydd a gafodd ei gyflawni a'i offer pysgota a'i ddalfa ac unrhyw eiddo gan y person a gollfarwnyd at godi'r swm ar gyfer y ddirwy; a
(b)
gorchymyn dal gafael yn y cwch a'i offer a'i ddalfa am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis ar ôl dyddiad y collfarniad neu hyd nes y telir y ddirwy neu hyd nes y codir y swm ar gyfer y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
(2)
Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 19806 (gohirio dyroddi gwarantau atafaelu a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(3)
Pan fydd gorchymyn, o ran dirwy ynghylch tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, o dan Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 19817 neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 19958 (y mae'r ddwy yn ymwneud â throsglwyddo dirwyon o un awdurdodaeth i un arall) yn pennu ardal cyfiawnder lleol yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi cael eu gosod gan lys yn yr ardal cyfiawnder lleol honno.