1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 7 Gorfennaf 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn rhagfarnu effaith adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 o ran unrhyw ddarpariaeth sy'n creu tramgwydd neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â hi.