Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006 a fe ddaw i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.
Cymeradwyo cod ymarfer2.
Mae'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094), a gyflwynwyd i'w gymeradwyo ar 6 Hydref 2005 gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac sydd i'w gyhoeddi gan RICS Business Services Limited, wedi'i gymeradwyo.
Tynnu cymeradwyaeth yn ôl3.
Darpariaeth drosiannol4.
Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn achos cyfreithiol) o ran gweithred neu anwaith sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo cod ymarfer sy'n ymwneud â gwaith rheoli eiddo preswyl gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094) yw'r cod a gymeradwyir ac mae i'w gyhoeddi gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Drwy'r Gorchymyn hwn mae'r Cynulliad hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth a roddwyd yng Ngorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996, (O.S. 1996/2839), i god sy'n dwyn yr enw Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X).
Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu nad yw methiant â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwyir yn peri ynddo'i hun i unrhyw berson fod yn agored i unrhyw achos cyfreithiol yn ei erbyn, ond bod y cod ymarfer, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn dderbyniol fel tystiolaeth ac y bydd unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei fod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn yr achos cyfreithiol yn cael ei chymryd i ystyriaeth.
Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4.