2006 Rhif 177 (Cy.28)
Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006
Wedi 'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwyso ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y rheoliadau hyn—
ystyr “cynigion statudol” (“statutory proposals”) yw cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “nifer a dderbynnir” (“admission number”) yw nifer y disgyblion yn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn yn unrhyw flwyddyn ysgol fel a benderfynir neu, lle bo'r cyd-destun yn mynnu, y bwridedir ei benderfynu, gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at adran â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf neu'r Atodlen honno i'r Ddeddf.
Amrywio'r trefniadau derbyn3
1
Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 89(8)(e) yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod derbyn, ar ôl iddo benderfynu'r trefniadau derbyn a fydd yn gymwys ar gyfer blwyddyn ysgol benodol, (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5)) amrywio'r trefniadau hynny.
2
Caiff awdurdod derbyn amrywio'r nifer a dderbynnir os yw amrywiad o'r fath yn angenrheidiol i weithredu y cynigion statudol—
a
os cafodd y cynigion eu cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6; neu
b
os yw'r corff neu'r hyrwyddwyr a gyhoeddodd y cynigion wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno weithredu'r cynigion.
3
Nid yw gofynion adran 89(5) i (7) (amrywio arfaethedig ar drefniadau derbyn wrth ystyried newid mawr mewn amgylchiadau) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o dan paragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)