Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006

Pwerau arolygwyr

17.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac fel pe bai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn—

(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);

(b)adran 64A(1) (pwerau arolygwyr ynglŷn â rhwymedigaethau Cymunedol), ac

(c)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal gafael ar lestri ac awyrennau).

(2Mae adran 65A(2) o'r Ddeddf (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—

(a)y Rheoliadau hyn yn Orchymyn o dan y Ddeddf;

(b)y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; ac

(c)pob parth brechu neu fangre a bennwyd mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi neu wedi'i dynodi cyhyd ag y bydd yn para mewn bodolaeth at ddibenion yr adran honno.

(3Caiff arolygydd farcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion ei adnabod.

(4Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, cuddio neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd o dan baragraff (3) yn euog o dramgwydd.

(1)

Mewnosodwyd adran 64A gan Reoliadau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3293), rheoliad 2.

(2)

Mewnosodwyd adran 65A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 10.