2006 Rhif 176 (Cy.27)
Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu2
Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 19993 o ran Cymru.
Dehongli3
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “ardal berthnasol” yr un ystyr i “relevant area” yn Rheoliadau Addysg (Ardaloedd Perthnasol i ymgynghori ar Drefniadau Derbyn) 19994
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “nifer derbyn” (“admission number”) yw'r nifer o ddisgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol, fel a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1)5;
ystyr “nifer derbyn a nodir” (“indicated admission number”) yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol a benderfynir yn unol â'r dull asesu capasiti a nodir yn y canllawiau, “Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru” 6;
mae i “rhiant” yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576 o Ddeddf Addysg 19967.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf.
Rhan 1Cyfeirio Gwrthwynebiadau at y Cynulliad Cenedlaethol
Achosion pan na chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad4
1
Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 90(1)(c) y disgrifiad o wrthwynebiadau na chaniateir eu cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 90(1).
2
Ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad—
a
Os sylwedd y gwrthwynebiad yw ceisio newid y trefniadau derbyn o dan sylw a hwnnw'n newid a fyddai'n gyfystyr â newid a ragnodwyd at ddibenion adran 28, neu
b
mewn unrhyw achos pan mai corff llywodraethu ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yw'r corff sy'n ceisio gwneud y gwrthwynebiad ac nad yw'r cyfrifoldeb dros benderfynu trefniadau derbyn yr ysgol wedi'i ddirprwyo iddo o dan adran 88(1)(a)(ii), ac mai gwrthwynebiad i'r canlynol yw'r gwrthwynebiad—
i
trefniadau derbyn unrhyw ysgol gymunedol arall neu ysgol wirfoddol arall a reolir yn yr ardal berthnasol lle'r awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, neu
ii
trefniadau derbyn yr ysgol y mae'r corff sy'n ceisio gwneud y gwrthwynebiad yn gorff llywodraethu arni, onid yw sylwedd y gwrthwynebiad yn ymwneud â phenderfynu unrhyw nifer derbyn ar gyfer yr ysgol honno.
Terfynau amser y mae'n rhaid cyfeirio'r gwrthwynebiad o'u mewn5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad o dan adran 90(1) onid yw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos ar ôl i'r hysbysiad sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 89(4)(b) ddod i law'r awdurdod derbyn sy'n gwrthwynebu.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad o dan adran 90(2) onid yw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd gyntaf hysbysiad o'r penderfyniad ar drefniadau derbyn perthnasol mewn papur newydd yn y dull sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 898.
3
Mae gwrthwynebiad sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) neu (2) i'w ystyried fel pe bai wedi'i gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad fod wedi dod i law yn gynharach na'r amser y daeth i law.
Rhan 2Cyfeirio Gwrthwynebiadau gan Rieni
Rhieni sy'n gymwys i gyfeirio gwrthwynebiad6
At ddibenion adran 90(2)(b) y disgrifiad o riant a gaiff gyfeirio gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau derbyn o dan yr is-adran honno yw unigolyn—
a
os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(a), sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd; neu
b
os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(b), sy'n rhiant y mae ei blentyn wedi cael ei ben blwydd yn ddwy oed ond heb gael ei ben blwydd yn bump oed, neu sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd,
ac sydd (yn y naill achos a'r llall) yn preswylio yn yr ardal berthnasol y mae ymgynghori o dan adran 89(2)(b) ynghylch y trefniadau derbyn hynny'n gymwys.
Gwrthwynebiadau y caiff rhieni eu cyfeirio7
1
At ddibenion adran 90(2)(c) y disgrifiad o wrthwynebiad y caniateir ei gyfeirio o dan adran 90(2) yw—
a
gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli;
b
gwrthwynebiad sy'n ymwneud â nifer derbyn ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
2
At ddibenion y rheoliad hwn,
a
ystyr “trefniadau dethol” (“selection arrangements”) yw'r trefniadau hynny (os oes rhai) yn y trefniadau derbyn a benderfynwyd ar gyfer ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol ac sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu o fewn ystyr adran 99(5); a
b
mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—
i
yn parhau o'r ddarpariaeth a wnaed yn nhrefniadau derbyn yr ysgol o dan sylw ar ddechrau blwyddyn ysgol 1997/98 ac a wnaed gan drefniadau derbyn olynol yr ysgol byth oddi ar hynny, a
ii
yn llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon.
3
At ddiben paragraff (2)(b)(ii), mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1) a (2)(c) (dosbarthiadau chwech), neu adran 101 (bandio disgyblion).
Amod i'w fodloni cyn penderfynu gwrthwynebiadau gan rieni8
1
Rhaid i'r amod ym mharagraff (2) gael ei fodloni cyn bydd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant o dan adran 90(2).
2
Yr amod yw bod nid llai na phump o rieni sy'n bodloni'r gofyniad yn rheoliad 6 wedi cyfeirio gwrthwynebiadau o dan adran 90(2) (neu un neu fwy o wrthwynebiadau ar y cyd)—
a
sy'n ymwneud â'r un trefniadau derbyn; a
b
sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.
Rhan 3Penderfyniadau ar Wrthwynebiadau ac Effaith Penderfyniadau
Cyhoeddi penderfyniadau9
1
Rhaid cyhoeddi penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhesymau drostynt o dan adran 90(7)—
a
drwy hysbysu'n ysgrifenedig y partïon i'r gwrthwynebiad a'r holl gyrff eraill yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy o dan adran 89(2), neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â hwy ynghylch y trefniadau derbyn arfaethedig; a
b
yn achos penderfyniad ar wrthwynebiad yn ymwneud â—
i
trefniadau derbyn sydd eisoes yn bodoli o fewn ystyr rheoliad 7(2), neu
ii
nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir
(pa un a gyfeiriwyd gwrthwynebiadau o'r fath gan riant ai peidio) drwy gyhoeddi'r wybodaeth ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.gwybodaeth.cymru.gov.uk o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad a'r rhesymau drosto.
2
Yr wybodaeth i'w chyhoeddi o dan is-baragraff (1)(b) yw—
a
enw'r awdurdod derbyn a'r ysgol (os yw'n wahanol) y mae'r trefniadau dethol yn gymwys iddynt; a
b
disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.
Cyfyngu ar wrthwynebiadau diweddarach10
1
Pan fo gwrthwynebiad ynghylch trefniadau derbyn ysgol benodol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol wedi'i benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol ni chaniateir cyfeirio unrhyw wrthwynebiad dilynol (gan y person neu'r corff a wnaeth y gwrthwynebiad neu gan unrhyw un arall) ynghylch—
a
y trefniadau hynny; neu
b
trefniadau'r ysgol honno ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol,
a hwnnw'n wrthwynebiad sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.
2
Nid yw paragraff (1)(b) yn rwystro gwrthwynebiad rhag cael ei gyfeirio ynghylch trefniadau ysgol—
a
pan fo'r penderfyniad a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cadarnhau gwrthwynebiad i drefniadau derbyn yr ysgol; a
b
pan mai sylwedd y gwrthwynebiad y ceisir yn awr ei gyfeirio yw bod trefniadau derbyn yr ysgol, a benderfynwyd gan yr awdurdod derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol, i'r graddau y maent yn berthnasol, yr un fath â'r rhai y cyfeiriwyd y gwrthwynebiad cynharach yn eu herbyn neu'n sylweddol yr un fath â hwy.
Pŵer i newid trefniadau yn sgil penderfynu gwrthwynebiad11
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—
a
bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad sy'n cadarnhau, i unrhyw raddau, wrthwynebiad i drefniadau derbyn a benderfynwyd gan awdurdod derbyn; a
b
bydd yn rhesymol i awdurdod derbyn perthnasol fod o'r farn bod y trefniadau y mae wedi eu penderfynu, i'r graddau y mae'n berthnasol—
i
yr un fath â'r trefniadau hynny; neu
ii
yn ddigon tebyg i'r un penderfyniad fod wedi'i wneud yn eu herbyn pe bai gwrthwynebiad wedi'i wneud.
2
Mewn achos pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn perthnasol adolygu ei drefniadau derbyn drwy wneud y newidiadau hynny sydd, ym marn resymol yr awdurdod, yn angenrheidiol er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad, a chaiff benderfynu ei drefniadau ar y ffurf honno sy'n ffurf wedi'i hadolygu.
3
Ni chaniateir gwneud penderfyniad o'r fath ond—
a
os gwneir trefniadau o'r fath o fewn deufis i'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto yn unol â rheoliad 9(1)(a); a
b
os yw'r awdurdod derbyn perthnasol wedi hysbysu pob corff derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n yn ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad hwn, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef.
4
Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod derbyn perthnasol” (“relevant admission authority”) yw awdurdod derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori o dan adran 89(2) â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, a hynny cyn iddo benderfynu'r trefniadau derbyn y mae'n dymuno eu hadolygu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)