2006 Rhif 173 (Cy.24)
Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 20021.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”), yng nghyd-destun cyfeiriadau at dderbyn plentyn i ysgol mewn unrhyw flwyddyn benodol, yw'r flwyddyn ysgol pryd y byddai'r plentyn hwnnw yn cymryd ei le yno gyntaf o ganlyniad i benderfyniad i'w dderbyn;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19982; ac
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
2
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.
Dirymu3
Dirymir Rheoliadau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Derbyniadau a Niferoedd Safonol) (Addasiad) 19993.
Darpariaethau Trosiannol — Trefniadau Derbyn
4
Er i adran 47(1) ddod i rym nid yw'r diwygiadau i adran 86 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
5
Er i ddirymiadau adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi ddod i rym, a'r diffiniadau o “the relevant standard number” yn adrannau 84(6) ac 143 o Ddeddf 1998, mae'r darpariaethau hynny yn dal i gael effaith o ran unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
6
Er i adran 47(2) a pharagraff 5 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw Adran 89A newydd Deddf 1998 na'r diwygiadau i adran 89 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran penderfynu ar drefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na blwyddyn ysgol 2008-09.
7
Er i baragraff 6 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiadau i adran 90 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran y trefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
8
Er i baragraff 12(2) o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 98(2) o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
9
Er i baragraff 14 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 439(2) o Ddeddf Addysg 19964 yn cael effaith o ran unrhyw orchymyn mynychu'r ysgol a wneir o dan adran 437 o'r Ddeddf honno yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
Diwygio Deddf 199810
1
Yn adran 98(6) ac (8) o Ddeddf 1998 rhodder “92(c) and (d)” yn lle “92(3) to (6)”.
2
Mae Rheoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf 1998 cyn 1 Chwefror 2006 i gael effaith fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 92 o Ddeddf 1998 fel y'i disodlwyd gan baragraff 7 o Atodlen 4 ynddi.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 199911
1
Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 19995 fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.
2
Yn lle rheoliad 2(2) rhodder y paragraff canlynol—
2
For the purposes of these Regulations the capacity of a school is to be determined in accordance with the capacity assessment method set out in the guidance document “Measuring the capacity of schools in Wales” issued by the National Assembly6.
3
Yn rheoliad 5, hepgorer o baragraff (1) y geiriau “and paragraph 9(1)(a) of Schedule 23” ac “and paragraph 9 of Schedule 23”, a hepgorer is-baragraff (3)(c).
4
Yn rheoliad 6, hepgorer o baragraff (1) y geiriau “, and paragraph 9(1)(b) of Schedule 23 to,” ac “, and paragraph 9 of Schedule 23 to,”, a hepgorer paragraff (3).
5
Yn rheoliad 7, hepgorer o baragraff (1)(a) y geiriau “and paragraph 9(6) of Schedule 23” ac o baragraff (2) y geiriau “or paragraph 9 of Schedule 23”.
6
Hepgorer rheoliad 11.
7
Hepgorer Atodlen 1.
8
Yn Atodlen 3, hepgorer Rhan V a'r pennawd i'r Rhan honno.
9
Yn Atodlen 4—
a
ym mharagraff 1 mewnosoder y diffiniad canlynol a'i roi yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—
“admission number” means the number of pupils in any relevant year group intended to be admitted in any school year as determined by an admission authority in accordance with section 89A(1) of the Act7;
b
ym mharagraffau 5(a), 6(a), 20(a) a 38(a) rhodder y geiriau “the admission number” yn lle “the standard number”; a
c
hepgorer Rhan VI a'r pennawd i'r Rhan honno.
Diwygio Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200112
O ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol, diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Newid Categorïau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20018 drwy ychwanegu ar ddiwedd adran 28(11) yn Nhabl 3 yn Rhan 1 fel y'i haddaswyd ac ar ddiwedd adran 28(11) fel y'i haddaswyd ac fel y'i ceir yn Rhan 2 y geiriau “and the capacity of a school is to be determined in accordance with the capacity assessment method set out in the guidance document “Measuring the capacity of schools in Wales” issued by the National Assembly.”.
Diwygio Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 200413
1
Diwygir Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 20049 fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.
2
Rhodder y paragraff canlynol yn lle rheoliad 2(3)—
3
At ddibenion y Rheoliadau hyn mae capasiti ysgol i gael ei benderfynu yn unol â'r dull asesu capasiti a geir yn y ddogfen ganllaw “Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru” a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Yn Atodlen 3—
a
ym mharagraff 1 hepgorer y diffiniad o “Rhif safonol perthnasol” (“relevant standard number”) a mewnosoder y diffiniad canlynol a'i roi yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—
“ystyr nifer derbyn” (“admission number”) yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn perthnasol y bwriedir eu derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol fel y pennir gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1) o Ddeddf 1998;
b
ym mharagraffau 5(a) a 32(a) rhodder y geiriau “y nifer derbyn” yn lle'r geiriau “y Rhif safonol perthnasol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)