- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Ionawr 2006
Yn dod i rym
1 Chwefror 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”), yng nghyd-destun cyfeiriadau at dderbyn plentyn i ysgol mewn unrhyw flwyddyn benodol, yw'r flwyddyn ysgol pryd y byddai'r plentyn hwnnw yn cymryd ei le yno gyntaf o ganlyniad i benderfyniad i'w dderbyn;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2); ac
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.
3. Dirymir Rheoliadau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Derbyniadau a Niferoedd Safonol) (Addasiad) 1999(3).
4. Er i adran 47(1) ddod i rym nid yw'r diwygiadau i adran 86 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
5. Er i ddirymiadau adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi ddod i rym, a'r diffiniadau o “the relevant standard number” yn adrannau 84(6) ac 143 o Ddeddf 1998, mae'r darpariaethau hynny yn dal i gael effaith o ran unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
6. Er i adran 47(2) a pharagraff 5 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw Adran 89A newydd Deddf 1998 na'r diwygiadau i adran 89 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran penderfynu ar drefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na blwyddyn ysgol 2008-09.
7. Er i baragraff 6 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiadau i adran 90 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran y trefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
8. Er i baragraff 12(2) o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 98(2) o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
9. Er i baragraff 14 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 439(2) o Ddeddf Addysg 1996(4) yn cael effaith o ran unrhyw orchymyn mynychu'r ysgol a wneir o dan adran 437 o'r Ddeddf honno yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
10.—(1) Yn adran 98(6) ac (8) o Ddeddf 1998 rhodder “92(c) and (d)” yn lle “92(3) to (6)”.
(2) Mae Rheoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf 1998 cyn 1 Chwefror 2006 i gael effaith fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 92 o Ddeddf 1998 fel y'i disodlwyd gan baragraff 7 o Atodlen 4 ynddi.
11.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(5) fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.
(2) Yn lle rheoliad 2(2) rhodder y paragraff canlynol—
“(2) For the purposes of these Regulations the capacity of a school is to be determined in accordance with the capacity assessment method set out in the guidance document “Measuring the capacity of schools in Wales” issued by the National Assembly(6).”.
(3) Yn rheoliad 5, hepgorer o baragraff (1) y geiriau “and paragraph 9(1)(a) of Schedule 23” ac “and paragraph 9 of Schedule 23”, a hepgorer is-baragraff (3)(c).
(4) Yn rheoliad 6, hepgorer o baragraff (1) y geiriau “, and paragraph 9(1)(b) of Schedule 23 to,” ac “, and paragraph 9 of Schedule 23 to,”, a hepgorer paragraff (3).
(5) Yn rheoliad 7, hepgorer o baragraff (1)(a) y geiriau “and paragraph 9(6) of Schedule 23” ac o baragraff (2) y geiriau “or paragraph 9 of Schedule 23”.
(6) Hepgorer rheoliad 11.
(7) Hepgorer Atodlen 1.
(8) Yn Atodlen 3, hepgorer Rhan V a'r pennawd i'r Rhan honno.
(9) Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 1 mewnosoder y diffiniad canlynol a'i roi yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—
““admission number” means the number of pupils in any relevant year group intended to be admitted in any school year as determined by an admission authority in accordance with section 89A(1) of the Act(7);”;
(b)ym mharagraffau 5(a), 6(a), 20(a) a 38(a) rhodder y geiriau “the admission number” yn lle “the standard number”; a
(c)hepgorer Rhan VI a'r pennawd i'r Rhan honno.
12. O ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol, diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Newid Categorïau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(8) drwy ychwanegu ar ddiwedd adran 28(11) yn Nhabl 3 yn Rhan 1 fel y'i haddaswyd ac ar ddiwedd adran 28(11) fel y'i haddaswyd ac fel y'i ceir yn Rhan 2 y geiriau “and the capacity of a school is to be determined in accordance with the capacity assessment method set out in the guidance document “Measuring the capacity of schools in Wales” issued by the National Assembly.”.
13.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004(9) fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.
(2) Rhodder y paragraff canlynol yn lle rheoliad 2(3)—
“(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae capasiti ysgol i gael ei benderfynu yn unol â'r dull asesu capasiti a geir yn y ddogfen ganllaw “Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru” a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.”.
(3) Yn Atodlen 3—
(a)ym mharagraff 1 hepgorer y diffiniad o “Rhif safonol perthnasol” (“relevant standard number”) a mewnosoder y diffiniad canlynol a'i roi yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—
““ystyr nifer derbyn” (“admission number”) yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn perthnasol y bwriedir eu derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol fel y pennir gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1) o Ddeddf 1998;”;
(b)ym mharagraffau 5(a) a 32(a) rhodder y geiriau “y nifer derbyn” yn lle'r geiriau “y Rhif safonol perthnasol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dod â darpariaethau Deddf Addysg 2002 i rym drwy Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006. Mae'r darpariaethau hynny'n diwygio Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) o ran penderfynu ar drefniadau derbyn, a gwneud gwrthwynebiad i drefniadau derbyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw'r darpariaethau diwygiedig yn gymwys tan flwyddyn derbyn i'r ysgol 2008-09.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 er mwyn cyfeirio at adran 92 o Ddeddf 1998, fel y'i disodlwyd gan Ddeddf Addysg 2002, ac maent yn darparu bod unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf 1998 cyn 1 Chwefror 2006 i gael effaith fel petaent wedi'u gwneud o dan yr adran 92 newydd o Ddeddf 1998.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r Rheoliadau Addysg (Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, y Rheoliadau Categorïau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 a'r Rheoliadau cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004. Mae'r diwygiadau hyn yn ganlyniadol ar diddymu darpariaethau Deddf 1998 ynglŷn â niferoedd safonol a chyflwyno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddull newydd o asesu capasiti ysgol at ddibenion y darpariaethau newydd ar benderfynu trefniadau derbyn a gaiff eu cyflwyno gan Ddeddf Addysg 2002. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dirymu Rheoliadau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Derbyniadau a Rhif au Safonol) (Addasiad) 1999 sydd wedi'u disbyddu.
O.S. 1999/1671 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/908 (Cy.91).
Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.
Mewnosodwyd adran 89A gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).
O.S. 2001/2678 (Cy.219) fel y'i diwygiwyd gan O.S 2005/2916 (Cy.213).
O.S. 2004/1576, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: