xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
31 Ionawr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006.
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4. Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Chwefror 2006.
5. Y diwrnod penodedig i adran 175 ddod i rym yw 1 Medi 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
Erthygl 4
| Y ddarpariaeth | Y pwnc |
|---|---|
| Adran 47 | Niferoedd derbyn |
| Adran 48 | Cyd-drefnu trefniadau derbyn |
| Adran 51 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym | Diwygiadau pellach yn ymwneud â threfniadau derbyn |
| Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
| Atodlen 4, paragraffau 3(6), 5,6,7,12(2) a (6), 13,14 | |
| Atodlen 22, Rhan 3, diddymu— | Diddymiadau |
| Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), yn adran 84(6), y diffiniad o “the relevant standard number”, adran 86(6) adran 93, yn adran 143 y cofnod yn ymwneud â'r nifer safonol perthnasol, Atodlen 23 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Chwefror 2006 y darpariaethau hynny o Ddeddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.
Caiff y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yr effaith a ganlyn—
Mae adran 47 yn diwygio Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) o ran trefniadau derbyn i ysgolion a gynhelir. Nid yw'n ofynnol bellach i ysgolion fod â niferoedd safonol (sy'n ymwneud â nifer y disgyblion sydd i'w derbyn mewn blwyddyn ysgol). Wrth benderfynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgol, bydd yn ofynnol i awdurdodau derbyn osod nifer derbyn. Bydd Rheoliadau a chanllawiau yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo'r nifer hwnnw. Hyd nes bydd yr awdurdod derbyn wedi derbyn y nifer hwnnw o ddisgyblion, mae'r ddyletswydd i gydymffurfio â dewis rhiant yn gymwys. Mae adran 47 hefyd yn diwygio adran 86 o Ddeddf 1998 i ganiatáu ar gyfer niferoedd derbyn ar wahân i leoedd dydd a lleoedd byrddio pan fo ysgolion yn darparu llety byrddio.
Mae adran 48 yn diwygio Deddf 1998 i ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALlau gyd-drefnu trefniadau derbyn i'r ysgol.
Mae adran 51 a'r darpariaethau a gychwynir yn Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau pellach i Ddeddf 1998 o ran trefniadau derbyn i'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi'r hawl i gyrff llywodraethu ysgolion cymuned ac ysgolion gwirfoddol gael ymgynghori â hwy ynglŷn â threfniadau derbyn y mae awdurdodau derbyn ysgolion eraill yn eu hardaloedd yn bwriadu eu gwneud.
Mae adran 175 yn gosod dyletswydd ar AALlau a chyrff lywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau Addysg Bellach, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud trefniadau mewn perthynas â lles plant. Yn ogystal, rhaid iddynt roi ystyriaeth i unrhyw ganllaw a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu pa trefniadau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud er mwyn cydymffurfio â'u dyletswyddau.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adrannau 14 i 17 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 18(2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran (19)(6) (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 19 (1) i (7) (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adran 20 (1) i (3), (5) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adrannau 21 a 22 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Adran 23 | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adrannau 27 a 28 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 29 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 30 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Adran 32 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Adrannau 33 a 34 | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adran 39(1) (yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.178) |
| Adran 39 (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adran 40 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 41 | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Adran 42 | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Adran 43 | 1 Tachwedd 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 46 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Adran 49 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 50 | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
| Adran 51 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) (Cy.95) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 |
| (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
| Adran 52 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adran 53 | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Adrannau 54 i 56 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 60 i 64 | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 72 | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Adran 75 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 97 a 98 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 99(1) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 100 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 101 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 103 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 105 i 107 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 108 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 109 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 111 i 118 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 119 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| Adran 120(1) a (3) i (5) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| Adran 120(2) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
| Adran 121 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| Adrannau 122 i 129 | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
| Adran 130 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| (yn llawn) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
| Adran 131 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 132 a 133 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 134 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 135 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 136 i 140 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 141 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 142 i 144 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 145 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 146 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 148 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 149 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 150 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 151(2) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 152 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 154 (Cy.95) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 |
| Adran 155 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Adran 156 (Cy.95) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 |
| Adrannau 157 i 174 | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Adran 176 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Adran 177 (Cy.95) | 1 Awst 2004 | 2004/912 |
| Adran 178(1) a (4) (Cy.185) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 |
| Adran 179 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 180 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 181 i 185 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy. 185) |
| Adran 188 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Adran 189 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 191 i 194 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 195 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 196 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 197 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 198 (Cy.95) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 |
| Adran 199 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 200 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adran 201 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Adrannau 202 a 203 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adran 206 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Adrannau 207 a 208 | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Adran 215 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
| (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185) |
| (yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/0912 (Cy.95) |
| (yn rhannol) (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172) | 1 Awst 2004 | 2004/912 |
| (yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
| (yn rhannol) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Atodlen 1 (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11 | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
| Paragraff 12(1), (3) i (5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/0912 (Cy.95) |
| Atodlen 5 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 9 | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15. | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 11 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7, | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Paragraff 12(1) a (2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 14, paragraffau 1 i 7 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| Paragraffau 4 i 9 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7, | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Paragraff 8 (yn rhannol), | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Paragraffau 13 i 15, | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| Atodlen 19 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Atodlen 20 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| Atodlen 21 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
| (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| (yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) (Cy.95) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 |
| (yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| (yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
| (yn rhannol) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
| Atodlen 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
| (yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
| (yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
| (yn rhannol) 2003/1667 | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a |
| (yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
| (yn rhannol) (Cy.95) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 |
| (yn rhannol) (Cy.95) | 1 Awst 2004 | 2004/912 |
| (yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
| (yn rhannol) (Cy.109) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 |
| (yn rhannol) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.