2006 Rhif 1717 (Cy.179)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 16 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

a

ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheolidau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 19993;

b

ystyr “y Cyngor Cefn Gwlad” (“the Countryside Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sefydlwyd gan adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19904.

Diwygio'r prif Reoliadau3

1

Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau (2) a (3).

2

Yn lle pob cyfeiriad at “the Countryside Council” rhodder “the National Assembly”.

3

Yn rheoliad 2(1)—

a

Yn lle'r diffiniad o “the Commission Regulation” rhodder ““the Commission Regulation” means Commission Regulation (EC) 817 / 2004 laying down detailed rules for the application of the Council Regulation5;”.

b

Yn y diffiniad o “the Council Regulation”, ar ôl y gair “others” mewnosoder y geiriau canlynol, “as last amended by Council Regulation (EC) No. 1783 / 20036, Council Regulation (EC) No. 567 / 20047, Council Regulation (EC) No. 583 / 20048 and Council Regulation (EC) No. 2223 / 20049”.

c

Dilëer y diffiniad o “Countryside Council”.

ch

Ar ôl y diffiniad o “interest” mewnosoder y diffiniad canlynol ““the National Assembly” means the National Assembly for Wales;”.

Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau4

Mae pob hawl a rhwymedigaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd ynddo yn unol â rheoliad 3 o'r prif Rheoliadau, yr oedd gan y Cyngor Cefn Gwlad hawl iddi neu oedd yn ddarostyngedig iddi yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau at ddarpariaethau â Rhif yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750 / 19995

Dylid dehongli pob cyfeiriad yn y prif Reoliadau at ddarpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/ 199910 yn unol ag Erthygl 74 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/ 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199811

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176) “y prif Reoliadau”, er mwyn rhoi effaith i drosglwyddo cyfrifoldeb am weinyddu cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal (Land in Care) “Cynllun Tir Gofal”, oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn effeithiol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Sefydlwyd y cynllun Tir Gofal o dan y prif Reoliadau ac mae bellach yn gweithredu o fewn fframwaith Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257 / 1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o dan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (O.J. L160, 26.6.1999, t.80) (“Rheoliad y Cyngor”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817 / 2004 gan osod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (O.J. L231, 30.6.2004, t.24).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i drosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw drwy ddarparu bod pob cyfeiriad at “Countryside Council” yn y prif Reoliadau yn cael eu disodli gan “the National Assembly” (Rheoliad 3(2)).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau ynghylch cytundebau'r cynllun Tir Gofal yr ymrwymwyd ynddynt gan y Cyngor Cefn Gwlad o dan y prif Reoliadau, i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at offerynnau Cymunedol penodol a ddiwygiwyd neu a ddisodlwyd ers i'r prif Reoliadau ddod i rym. (Rheoliadau 3 (3)(a) a 3(3)(b).

Gwneir mân ddarpariaethau a diwygiadau pellach gan Reoliad 3(3)(c), 3(3)(ch) a Rheoliad 5.

Paratowyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn sydd ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.