Search Legislation

Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1717 (Cy.179)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

28 Mehefin 2006

Yn dod i rym

16 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 16 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheolidau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999(3);

(b)ystyr “y Cyngor Cefn Gwlad” (“the Countryside Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sefydlwyd gan adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(4).

Diwygio'r prif Reoliadau

3.—(1Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn lle pob cyfeiriad at “the Countryside Council” rhodder “the National Assembly”.

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)Yn lle'r diffiniad o “the Commission Regulation” rhodder ““the Commission Regulation” means Commission Regulation (EC) 817 / 2004 laying down detailed rules for the application of the Council Regulation(5);”.

(b)Yn y diffiniad o “the Council Regulation”, ar ôl y gair “others” mewnosoder y geiriau canlynol, “as last amended by Council Regulation (EC) No. 1783 / 2003(6), Council Regulation (EC) No. 567 / 2004(7), Council Regulation (EC) No. 583 / 2004(8) and Council Regulation (EC) No. 2223 / 2004(9)”.

(c)Dilëer y diffiniad o “Countryside Council”.

(ch)Ar ôl y diffiniad o “interest” mewnosoder y diffiniad canlynol ““the National Assembly” means the National Assembly for Wales;”.

Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau

4.  Mae pob hawl a rhwymedigaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd ynddo yn unol â rheoliad 3 o'r prif Rheoliadau, yr oedd gan y Cyngor Cefn Gwlad hawl iddi neu oedd yn ddarostyngedig iddi yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau at ddarpariaethau â Rhif yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750 / 1999

5.  Dylid dehongli pob cyfeiriad yn y prif Reoliadau at ddarpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/ 1999(10) yn unol ag Erthygl 74 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/ 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mehefin 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176) “y prif Reoliadau”, er mwyn rhoi effaith i drosglwyddo cyfrifoldeb am weinyddu cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal (Land in Care) “Cynllun Tir Gofal”, oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn effeithiol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Sefydlwyd y cynllun Tir Gofal o dan y prif Reoliadau ac mae bellach yn gweithredu o fewn fframwaith Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257 / 1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o dan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (O.J. L160, 26.6.1999, t.80) (“Rheoliad y Cyngor”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817 / 2004 gan osod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (O.J. L231, 30.6.2004, t.24).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i drosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw drwy ddarparu bod pob cyfeiriad at “Countryside Council” yn y prif Reoliadau yn cael eu disodli gan “the National Assembly” (Rheoliad 3(2)).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau ynghylch cytundebau'r cynllun Tir Gofal yr ymrwymwyd ynddynt gan y Cyngor Cefn Gwlad o dan y prif Reoliadau, i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at offerynnau Cymunedol penodol a ddiwygiwyd neu a ddisodlwyd ers i'r prif Reoliadau ddod i rym. (Rheoliadau 3 (3)(a) a 3(3)(b).

Gwneir mân ddarpariaethau a diwygiadau pellach gan Reoliad 3(3)(c), 3(3)(ch) a Rheoliad 5.

Paratowyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn sydd ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(5)

O.J. Rhif L231, 30/6/2004, t.24.

(6)

O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70.

(7)

O.J. Rhif L090, 27.3.2004, t.1.

(8)

O.J. Rhif L091, 30.3.2004, t.1.

(9)

O.J. Rhif L379, 24.12.2004, t.1.

(10)

O.J. Rhif L214, 13.8.1999, t.31.

(11)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources