(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 2005 (“Deddf 2005”) yn ailddeddfu (gydag addasiadau) Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 (“Deddf 1996”) o ran Cymru. Mae system arolygiadau ysgolion ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Loegr. Fel yn Neddf 1996, ceir yn Neddf 2005 hithau fframwaith statudol ar gyfer arolygu ysgolion, ond mae'n gadael i'r Rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymdrin â llawer o'r manylion. Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan y darpariaethau a ailddeddfwyd yn Neddf 2005, yn rhagnodi'r manylion hynny. Maent yn atgyfnerthu gan fwyaf y darpariaethau a geir yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998, fel y'u diwygiwyd, sef y Rheoliadau y maent yn eu disodli. Maent hefyd yn atgyfnerthu Rheoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992. Crynhoir isod brif ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gan dynnu sylw at unrhyw newidiadau arwyddocaol i Reoliadau 1998. Cyfeiriadau at adrannau a Rhannau o Ddeddf 2005 a'r Atodlenni iddi yw'r cyfeiriadau isod yn y Nodyn Esboniadol hwn.

Mae Rhan 1 yn ymwneud â materion cyffredinol.

Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005.

Mae rheoliad 3 yn diffinio termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau drwyddynt draw. Mae paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw (i bob pwrpas) yn cywiro camgymeriad yn Neddf 2005.

Mae Rhan 2 yn ymwneud ag arolygiadau ysgolion.

Mae rheoliad 4 yn diffinio'r termau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 2.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi ffi o £150 ar gyfer ymgofrestru'n arolygydd cofrestredig o dan adran 25.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod arolygiadau'n cael eu cynnal bob chwe blynedd o'r amser yr arolygwyd yr ysgol ddiwethaf neu, os nad adolygwyd yr ysgol o'r blaen, o'r amser y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.

Mae rheoliad 7 yn rhestru'r personau hynny y mae'n rhaid i'r awdurdod priodol eu hysbysu (fel arfer corff llywodraethu'r ysgol — gweler rheoliad 4(1)) ynghylch pryd y mae'r arolygiad i'w gynnal.

Mae rheoliad 8 yn nodi'r trefniadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdod priodol ar gyfer cynnal cyfarfod rhieni etc cyn arolygiad, ac mae'n darparu mai dim ond y personau hynny a restrir a gaiff fod yn bresennol yn y cyfarfod. Yn ddarostyngedig i hynny, mae'n darparu bod yr arolygydd sy'n arwain yr arolygiad yn rheoli'r cyfarfod.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod arolygiad i'w gwblhau o fewn pythefnos, a bod adroddiad ar yr arolygiad i'w gwblhau o fewn 35 o ddiwrnodau gwaith (fel a ddiffinnir yn rheoliad 3) i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol neu'r perchennog gymryd camau rhesymol ymarferol i sicrhau bod y rhieni'n cael crynodeb o'r adroddiad (y mae gan rieni hawl iddo o dan adran 38 (4) neu 41(4) o'r Ddeddf) o fewn deng niwrnod gwaith i'r amser y mae'r awdurdod neu'r perchennog yn cael yr adroddiad. Yn wahanol i'w ragflaenydd, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion annibynnol (sydd erbyn hyn yn ddarostyngedig i'w harolygu o dan Ddeddf 2002, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 8).

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol neu'r perchennog baratoi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o ddeugain a phump o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y mae'n cael yr adroddiad, ac iddo anfon copïau i'r personau a'r cyrff hynny sydd â'r hawl i gael copïau o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliad hwnnw (sy'n amrywio yn ôl p'un a yw ysgol wedi'i dynodi'n ysgol sy'n peri pryder ai peidio). Y rhai y cyfeirir atynt yn y Ddeddf ac a ragnodir ym mharagraff (3) o reoliad 10 yw'r personau a'r cyrff dan sylw. Yn wahanol i'w ragflaenydd, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion annibynnol (sydd bellach yn ddarostyngedig i'w harolygu o dan Ddeddf 2002, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 8).

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol baratoi'r datganiad y mae'n ofynnol iddo ei baratoi o dan adran 40(3)(a) o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 12 yn caniatáu codi ffioedd am adroddiadau arolygu, crynodebau a chynlluniau gweithredu (ffioedd nad ydynt yn fwy na'r gost o'u cyflenwi) yn yr achosion a bennir yn y rheoliad hwnnw.

Mae Rhan 3 yn ymwneud ag arolygu addysg enwadol.

Mae rheoliad 13 yn diffinio'r termau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 3.

Mae rheoliad 14 yn darparu bod y cyfryw arolygiadau yn cael eu cynnal bob chwe blynedd o'r amser yr arolygwyd y ddarpariaeth ddiwethaf neu, os nad adolygwyd y ddarpariaeth o'r blaen, o'r adeg y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.

Gwneir rheoliad 15 o dan bŵer newydd. Mae'n darparu ar gyfer ymgynghori â'r awdurdod esgobaethol priodol ynghylch dewis arolygydd.

Mae rheoliad 16 yn rhagnodi cyfnodau y mae'r cyfryw arolygiadau i'w gwneud ynddynt, y mae adroddiad arolygu a chynllun gweithredu i'w paratoi, ac y mae cynllun gweithredu i'w anfon i'r sawl sydd â hawl i gael copi ohono. Y personau y cyfeirir atynt yn y Ddeddf a'r personau ychwanegol a ragnodir gan baragraff (6), os byddant yn gofyn am gopi, yw'r personau hynny.

Mae rheoliad 17 yn rhagnodi achosion pan ganiateir codi ffi am gopi o adroddiad arolygu, crynodeb neu o gynllun gweithredu (ffi nad yw'n fwy na'r gost o'i gyflenwi).

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau arolygu ysgolion yr awdurdod addysg lleol.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gadw cyfrifon o ran y cyfryw wasanaeth.