Cyffredinol11
1
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn—
a
sy'n ei gwneud yn ofynnol neu'n awdurdodi i unrhyw beth gael ei wneud mewn cysylltiad â'r cyflenwad dŵr neu ddraenio neu'r cyflenwad nwy neu drydan onid yw'n unol ag unrhyw ddeddfiad; neu
b
sy'n gorfodi'r rheolwr i gymryd unrhyw gamau, mewn cysylltiad â'r materion hynny, sy'n gyfrifoldeb awdurdod lleol neu unrhyw berson arall, heblaw'r camau hynny a all fod yn angenrheidiol i ddwyn y mater yn ddiymdroi i sylw'r awdurdod neu'r person sy'n ymdrin â'r mater.
2
Mae unrhyw ddyletswydd a osodir gan y Rheoliadau hyn i gynnal a chadw neu drwsio i'w dehongli fel dyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod safon y cynnal a chadw neu'r trwsio yn un sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gan gymryd i ystyriaeth oed, cymeriad ac oes ragolygol y tŷ a'r ardal lle y mae'r tŷ.