- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Erthygl 10
1. Caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, falurion cwch neu offer y darganfyddir iddynt fod yn agored i gael eu heintio gan y pla hysbysadwy, hysbysiad sy'n cydymffurfio ag erthygl 9, yn mynnu eu bod yn difa neu drin y pethau hynny yn unol â'r hysbysiad.
2. Caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i feddiannydd unrhyw fangre lle lleolir cwch y darganfyddir iddo fod yn agored i gael ei heintio hysbysiad sy'n cydymffurfio ag erthygl 9, yn mynnu fod y pridd o gwmpas y cwch yn cael ei drin yn unol â'r hysbysiad.
3. Ni chaiff neb symud, neu ganiatáu symud, unrhyw gwch, gwenyn, plâu gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch, offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy i mewn i'r ardal heintiedig neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
4. Ni chaiff neb symud, neu ganiatáu symud, unrhyw gwch, gwenyn, plâu gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch, offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy o'r fangre neu'r cerbyd lle maent, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5. Rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag sydd yn rhesymol ymarferol o'i enw a'i gyfeiriad a lleoliad unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer sydd yn ei feddiant neu y mae'n gyfrifol amdanynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: