Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006, daw i rym ar 1 Gorffennaf 2006 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys unrhyw long, cwch, hofrenfad neu awyren.

ystyr “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yw clefyd y gwenyn Americanaidd neu glefyd y gwenyn Ewropeaidd;

ystyr “cwch” (“hive”) yw unrhyw beth sy'n cynnwys, neu sydd wedi cynnwys ar unrhyw adeg, nythfa o wenyn;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan gydag adeiladau neu heb adeiladau;

ystyr “offer” (“appliances”) yw cynwysyddion neu unrhyw offer arall a ddefnyddir mewn perthynas â chadw neu gludo gwenyn;

ystyr “pecyn profi yn y maes” (“field test kit”) yw pecyn profi symudol a ddefnyddir i'r diben o gadarnhau presenoldeb clefyd heb fod angen anfon samplau i labordy;

ystyr “pla gwenyn” (“bee pest”) yw unrhyw chwilen, gwiddonyn neu organeb debyg a all fod yn niweidiol i wenyn ac sydd ar unrhyw gam yn ei gylchred bywyd;

ystyr “pla hysbysadwy” (“notifiable pest”) yw chwilen fach y cwch (Aethina tumida) neu unrhyw rywogaeth o'r gwiddonyn Tropilaelaps;

(2Mae hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn gorfod bod mewn ysgrifen;

(b)yn gallu cael ei atal, ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg;

(c)yn gallu bod yn ddarostyngedig i amodau.

(3Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o dan erthygl 10.

(4Rhaid i drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod mewn ysgrifen, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff gynnwys amodau a gellir ei hatal, ei diwygio neu ei dirymu drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i drwydded gyffredinol a roddir o dan y Gorchymyn hwn gael ei dwyn i sylw'r personau hynny y mae'n debyg o effeithio arnynt drwy ei chyhoeddi ym mha bapurau newydd neu gyfnodolion bynnag neu ym mha ffordd bynnag arall sy'n ofynnol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

Hysbysu ynghylch amheuaeth o bresenoldeb clefyd neu bla

3.—(1Rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am gwch sy'n gwybod neu sy'n amau—

(a)bod unrhyw wenyn o'r cwch wedi'u heintio â chlefyd hysbysadwy;

(b)bod pla hysbysadwy yn bresennol yn y cwch; neu

(c)bod pla hysbysadwy yn bresennol yn yr un fangre neu'r un cerbyd â'r cwch,

hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r ffaith honno.

(2Rhaid i unrhyw berson arall—

(a)y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei ofal; neu

(b)sy'n darganfod yng nghwrs ei waith,

bla gwenyn y mae'n gwybod neu'n amau ei fod yn bla hysbysadwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r ffaith honno.

Gwahardd symud

4.—(1Pan fo hysbysiad wedi'i roddi o dan erthygl 3, ni chaiff perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano symud, neu ganiatáu symud, o'r fangre neu'r cerbyd lle mae'r cwch—

(a)unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch neu offer; neu

(b)unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy.

(2Caiff perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano, er gwaethaf darpariaethau paragraff 4 o'r Atodlen, gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu profi mewn labordy samplau o—

(a)unrhyw rannau o'r cwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu falurion cwch er mwyn penderfynu a ydynt wedi'u heintio â chlefyd hysbysadwy neu â phla hysbysadwy;

(b)unrhyw bla gwenyn er mwyn penderfynu a yw'n bla hysbysadwy;

(c)pridd o'r ardal o gwmpas y cwch er mwyn penderfynu a yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.

(3Os cyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud yn yr hysbysiad hwnnw'n gymwys yn lle'r gwaharddiad ar symud ym mharagraff 4 o'r Atodlen.

(4Os na chyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud ym mharagraff 4 o'r Atodlen yn gymwys hyd—

(a)y bydd person awdurdodedig wedi cadarnhau drwy hysbysiad ei fod wedi'i fodloni nad yw'r gwenyn wedi'u heintio â'r clefyd hysbysadwy neu nad yw'r pla hysbysadwy yn bresennol yn y cwch neu yn y fangre neu'r cerbyd lle mae'r cwch; neu

(b)y bydd perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano wedi'i hysbysu fod canlyniadau profion ar samplau a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2) yn cadarnhau nad yw'r deunydd yn y samplau wedi'i heintio neu nad yw'n bla hysbysadwy.

(5Ni chaiff unrhyw berson sy'n rhoi hysbysiad o dan erthygl 3(2) symud neu ganiatáu symud unrhyw bla gwenyn neu unrhyw beth arall a allai ledaenu'r pla hysbysadwy o'r fangre neu'r cerbyd lle mae'r pla neu'r peth hwnnw.

(6Caiff unrhyw berson sy'n rhoi hysbysiad o dan erthygl 3(2), er gwaethaf darpariaethau paragraff (5), gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu profi mewn labordy samplau o—

(a)unrhyw bla gwenyn er mwyn canfod a yw'n bla hysbysadwy;

(b)unrhyw beth arall, yn cynnwys pridd, er mwyn canfod a yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.

(7Os cyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud yn yr hysbysiad hwnnw'n gymwys yn lle'r gwaharddiad ar symud ym mharagraff (5).

(8Os na chyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud ym mharagraff (5) yn gymwys hyd—

(a)y bydd person awdurdodedig wedi cadarnhau drwy hysbysiad ei fod wedi'i fodloni nad yw'r pla hysbysadwy yn bresennol; neu

(b)y bydd y person a roddodd hysbysiad o dan erthygl 3(2) wedi'i hysbysu fod canlyniadau'r profion ar samplau a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (6) yn cadarnhau nad yw'r deunydd yn y samplau yn bla hysbysadwy neu nad yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.

(9Rhaid pacio unrhyw sampl a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (6) yn y fath fodd ag i osgoi hyd y mae'n bosibl y risg o ledaenu'r haint pan fydd yn cael ei gludo.

Marcio cychod ac offer

5.—(1Caiff person awdurdodedig farcio unrhyw gwch neu offer er diben ei adnabod.

(2Ni chaiff neb ymyrryd â marc adnabod a wnaed o dan baragraff (1) na chaniatáu ymyrryd â'r fath farc.

Hysbysiadau'n gwahardd symud

6.—(1Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros amau bod clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy yn bresennol mewn unrhyw fangre neu gerbyd, rhaid iddi gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am—

(a)unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, falurion cwch neu offer sydd yn y fangre neu'r cerbyd; neu

(b)unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy sydd yn y fangre neu'r cerbyd,

hysbysiad yn gwahardd eu symud ac yn gwahardd symud unrhyw blâu gwenyn sydd ynddynt neu sy'n effeithio arnynt, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Os rhwystrir unrhyw berson awdurdodedig rhag gweithredu ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf, caiff gyflwyno i'r person sy'n ymddangos i'r person awdurdodedig mai ef yw perchennog neu feddiannydd y fangre, neu mai ef yw perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd, hysbysiad sy'n gwahardd symud o'r fangre neu'r cerbyd—

(a)unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, plâu gwenyn, malurion cwch neu offer; neu

(b)unrhyw beth arall a allai ledaenu clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy.

(3Rhaid diddymu hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) os yw person awdurdodedig yn ddiweddarach yn gallu gweithredu'n ddirwystr ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf yn y fangre neu'r cerbyd.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwenyn 1980.

Mesurau rheoli clefyd

7.—(1Caiff person awdurdodedig gadarnhau presenoldeb clefyd hysbysadwy ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes.

(2Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Americanaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—

(a)rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa unrhyw wenyn, diliau neu gynhyrchion gwenyn sy'n dod o'r cwch yn unol â'r hysbysiad;

(b)caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad;

(c)caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.

(3Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Ewropeaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—

(a)rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin unrhyw wenyn, diliau neu gynhyrchion gwenyn sy'n dod o'r cwch yn unol â'r hysbysiad;

(b)caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad;

(c)caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.

(4Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes fod y clefyd hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.

Mesurau rheoli plâu

8.—(1Caiff person awdurdodedig gadarnhau presenoldeb pla hysbysadwy ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu archwiliad.

(2Pan fydd presenoldeb pla hysbysadwy wedi'i gadarnhau mewn cwch neu yn yr un fangre neu gerbyd ag y mae cwch—

(a)rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, unrhyw wenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, plâu gwenyn neu falurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy yn unol â'r hysbysiad;

(b)caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i feddiannydd y fangre lle mae'r cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid trin y pridd o gwmpas y cwch yn unol â'r hysbysiad;

(c)caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.

(3Pan gadarnheir presenoldeb pla hysbysadwy mewn unrhyw fangre neu gerbyd arall, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin unrhyw blâu gwenyn ac unrhyw bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy yn unol â'r hysbysiad—

(a)i unrhyw berson sydd â phla gwenyn yn ei feddiant neu o dan ei ofal;

(b)i berchennog neu i feddiannydd y fangre, neu i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd.

(4Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu archwiliad fod y pla hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.

Hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 7 neu 8

9.  Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 7 neu 8 ddynodi—

(a)dull y difa neu'r driniaeth, a all, yn achos triniaeth, gynnwys defnyddio sylwedd arbennig neu unrhyw weithred arall i'r diben o reoli'r clefyd neu'r pla; a

(b)y dyddiad erbyn yr hwn y mae'n rhaid i'r difa neu'r driniaeth ddigwydd, neu'r cyfnod yn ystod yr hwn y mae'n rhaid i'r driniaeth ddigwydd,

a chaiff ddynodi fod yn rhaid cyflawni'r difa neu'r driniaeth gan berson awdurdodedig, ym mhresenoldeb person awdurdodedig neu o dan arolygiaeth person awdurdodedig.

Datgan ardal heintiedig

10.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ddatgan fod ardal lle mae wedi'i fodloni fod pla hysbysadwy yn bresennol yn ardal heintiedig.

(2Caiff yr hysbysiad ddarparu fod y cyfan o'r darpariaethau a ddynodir yn yr Atodlen, neu unrhyw rai ohonynt, yn gymwys yn y cyfan neu unrhyw ran o'r ardal heintiedig, a bod darpariaethau gwahanol yn gymwys mewn gwahanol rannau o'r ardal heintiedig, yn ôl yr hyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ystyried sy'n angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad y pla.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ac unrhyw hysbysiad sy'n diwygio neu'n dirymu'r fath hysbysiad yn y fath fodd ag y tyb sy'n briodol er mwyn ei ddwyn i sylw'r personau sy'n debygol o gael eu heffeithio arnynt ganddo.

Gwenyn a fewnforir

11.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fewnforir gwenyn i mewn i'r Deyrnas unedig yn unol ag Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC sy'n ymwneud â'r amodau parthed iechyd anifeiliaid a'r tystysgrifau sy'n ofynnol yn achos mewnforio gwenyn (o'r rhywogaethau Apis mellifera a Bombus) o rai trydydd gwledydd, ac sy'n dirymu Penderfyniad 2000/462/EC(1).

(2Pan fydd y gwenyn yn cyrraedd y wenynfa ar ben eu taith (fel y nodir ar y dystysgrif iechyd sy'n dod gyda'r gwenyn), rhaid i'r traddodai (fel y nodir ar y dystysgrif iechyd sy'n dod gyda'r gwenyn)—

(a)trosglwyddo'r mamwenyn i gewyll newydd cyn eu cyflwyno i unrhyw nythfeydd gwenyn lleol;

(b)anfon y cewyll y cludwyd y gwenyn ynddynt o wlad eu tarddiad, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn o wlad eu tarddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu harchwilio mewn labordy ar gyfer presenoldeb pla hysbysadwy.

(3Yn dilyn yr archwiliad y cyfeirir ato ym mharagraff 2(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu i'r cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu difa cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

(4Pan fewnforir gwenyn o'r rhywogaeth Bombus i mewn i'r Deyrnas unedig yn unol ag Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC, rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am y gwenyn sicrhau bod y cynhwysydd yn yr hwn y cawsant eu cludo o wlad eu tarddiad a'r holl ddeunyddiau sy'n dod gyda'r gwenyn o wlad eu tarddiad yn cael eu difa un ai yn ystod oes y nythfa a fewnforiwyd neu yn syth ar ôl diwedd ei hoes.

Darparu cyfleusterau a dyletswyddau eraill

12.—(1Rhaid i berchennog neu berson sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer a pherchennog neu feddiannydd unrhyw fangre a pherchennog neu berson sy'n gyfrifol am unrhyw gerbyd yr amheuir fod pla hysbysadwy yn bresennol yn unrhyw un o'r pethau hynny neu ar unrhyw un ohonynt—

(a)sicrhau fod pa bynnag gyfleusterau ar gael, a

(b)rhoi pa bynnag wybodaeth (yn cynnwys gwybodaeth ynghylch nifer, lleoliad ac unrhyw symud a fu ar gychod, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer sydd neu a fu yn ei feddiant neu o dan ei ofal a gwybodaeth ynghylch lleoliad unrhyw blâu gwenyn o fewn y fangre neu'r cerbyd),

i berson awdurdodedig ag y gall y person awdurdodedig hwnnw yn rhesymol eu mynnu er dibenion y Gorchymyn hwn.

(2Ni chaiff neb drin gwenyn gyda sylwedd a allai effeithio mewn ffordd sy'n celu presenoldeb clefyd hysbysadwy neu'n ei wneud yn anodd ei ganfod, oni bai ei fod hynny'n digwydd wrth iddo drin y gwenyn yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan erthygl 7.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy drwydded eithrio unrhyw berson o'r gwaharddiad a gynhwysir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y Gorchymyn hwn neu sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau hysbysiad sy'n datgan fod ardal yn ardal heintiedig o fewn ystyr erthygl 10 gydymffurfio â darpariaethau'r hysbysiad hwnnw.

Gweithredu yn achos methiant i gydymffurfio

13.—(1Os bydd unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd iddo o dan y Gorchymyn hwn, caiff person awdurdodedig gymryd pa gamau bynnag ag y tyb sy'n ofynnol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(2Bydd y person y cyflwynir yr hysbysiad iddynt yn atebol am unrhyw gostau sy'n codi o dan baragraff (1).

(3Ni fydd unrhyw gamau a gymerir gan berson awdurdodedig o dan baragraff (1) neu unrhyw gamau ar gyfer adennill costau o dan baragraff (2) yn rhagfarnu unrhyw achos mewn perthynas â throsedd sy'n deillio o fethu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn hwn.

Cyflwyno hysbysiadau

14.—(1Bydd unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn wedi'i gyflwyno'n briodol i unrhyw berson os—

(a)bydd wedi'i roi iddo'n bersonol;

(b)bydd wedi'i adael yn ei gartref neu'r cyfeiriad busnes diweddaraf y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod amdano ar ei gyfer, neu ei bostio i un o'r llefydd hynny; neu

(c)pan fo'r amodau ym mharagraff 14(2) wedi'u cyflawni, bydd wedi'i anfon ato drwy e-bost.

(2Ystyrir fod hysbysiad a gyflwynwyd i unrhyw berson drwy e-bost wedi'i gyflwyno'n briodol iddo os bydd y person hwnnw—

(a)wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen (a heb ddiddymu'r hysbysiad) ei fod yn fodlon derbyn cyflwyno hysbysiadau o dan y Gorchymyn hwn drwy e-bost; a

(b)wedi darparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, mewn ysgrifen, gyfeiriad e-bost i'r diben hwnnw.

Eithriadau

15.  Gellir, drwy gyfrwng trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, eithrio unrhyw berson sy'n cyflawni ymchwil neu'n dilyn cwrs hyfforddiant sy'n ymwneud â phlâu neu glefydau sy'n effeithio ar wenyn, o unrhyw rai o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, heblaw darpariaethau erthygl 11.

Dirymiadau

16.  Dirymir Gorchymyn Rheoli Clefydau Gwenyn 1982(2) a Gorchymyn Mewnforio Gwenyn 1997(3) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources